Mae Ben Lake yn pryderu y bydd agweddau “gwaradwyddus” tuag at ffermio yn ei gwneud hi’n anodd i bobol ifanc gael mynediad i’r diwydiant.
Yn ddiweddar, bu i Jacob Rees-Mogg, yr Aelod Seneddol Ceidwadol, awgrymu y dylid mewnforio cig o Awstralia, yn hytrach na chefnogi ffermydd lleol.
“Mae amaethu yn fywoliaeth fregus ar y gorau, mae gofyn i ffermwyr ac amaethwyr gynllunio beth o flaen llaw, ac mae cymaint o ffactorau yn gallu cael effaith sylweddol ar eu gallu nhw i amaethu,” meddai Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Geredigion wrth golwg360.
“Felly, dydy’r ansicrwydd yma gan y Llywodraeth, ar y naill ochor mae’n rhaid i fi gyfaddef, ddim yn helpu.
“Mae yna gymaint o ffermwyr yn ystyried efallai nad oes yna ddyfodol iddyn nhw yn y diwydiant, cymaint o ffermwyr ifanc yn ei chael hi’n anodd cael mynediad i’r diwydiant, ac yn penderfynu mynd ar ôl trywydd arall.
“Mae cael rhywun fel Jacob Rees-Mogg wedyn yn pregethu am fanteision cig o Awstralia sydd wedi cael ei gynhyrchu i safonau hollol wahanol i ni gan ddulliau fyddai’n anghyfreithlon yng Nghymru ac ym Mhrydain yn waradwyddus a dweud y gwir.”
‘Waeth i ni bacio lan a mynd’
Er nad yw Jacob Rees-Mogg yn weinidog o fewn Llywodraeth y Deyrnas Unedig bellach, mae Ben Lake yn bryderus am effaith sylwadau o’r fath gan ffigwr dylanwadol yn San Steffan.
“Mae cywilydd bod e’n ymdrin â’r mater hanfodol pwysig yma i gefn gwlad Cymru, a chefn gwlad Lloegr hefyd, mewn ffordd mor ddibwys ac anghyfrifol,” meddai.
“Rydw i’n poeni bod y math yma o ddatganiadau gan rywun sydd yn cael ei adnabod fel ffigwr dylanwadol pan mae’n dod i gytundebau masnach yn golygu bod y ffermwyr yn meddwl does yna ddim dyfodol i ni – waeth i ni bacio lan a mynd.”
“Degawdau o waith ac ymdrech” i ddenu pobol ifanc yn ôl
Mae’r Aelod Seneddol dros Geredigion hefyd yn bryderus am ddyfodol gweddill pobol ifanc yr ardal, wrth i gyfleoedd mewn dinasoedd mawr eu denu i ffwrdd o’u cartrefi.
Dywed bod y datrysiad i’r broblem fod pobol ifanc yn symud o ardaloedd gwledig yn “gymharol syml, ond yn anodd iawn i’w wireddu”.
“Yr unig ffordd, yn fy marn i, i fynd i’r afael â’r broses yma yw, dros amser, i sicrhau twf economaidd a bod cyfleoedd gwaith a gyrfaoedd gwahanol newydd wedi’u lleoli yng nghefn gwlad,” meddai.
“Dydy hyn ddim am ddigwydd dros nos; byddai e’n golygu degawdau o waith ac ymdrech.”
Cysylltedd digonol yn “agor drysau”
Mae Ben Lake yn gobeithio y bydd pobol yn manteisio ar y cyfleoedd i weithio’n hybrid neu ar-lein, ond mae’n nodi bod yn rhaid sicrhau cysylltedd da yng nghefn gwlad Cymru er mwyn gallu gwneud hynny.
“Yn y tymor byr un o’r pethau hynny sydd efallai’n rhoi gobaith i ni yng nghefn gwlad yw’r ffaith bod y pandemig wedi golygu bod yna gymaint ohonom ni nawr yn gyfarwydd gyda gweithio’n hybrid a gweithio o gartref,” meddai.
“Felly yng nghefn gwlad, cyhyd bod gennym ni’r cysylltedd digidol yna mae’n agor y drws i gymaint o gyfleoedd ac rydyn ni’n rhoi’r llwyfan a’r cyfle i gefn gwlad ddenu mwy o bobol yn ôl am eu gyrfaoedd.
“Ond os ydyn ni am sicrhau mwy o gyfleoedd i bobol yn y tymor byr, gad i ni sicrhau bod y cysylltedd yna.”