Mae Prifysgol Wrecsam wedi ymddiheuro am sylwadau un o’u hathrawon oedd wedi dweud bod arwyddion ffyrdd dwyieithog yn “cynnwys gwybodaeth amherthnasol ac annealladwy i’r rhan fwyaf o bobol”.
Rhannodd Dr Nigel Hunt, Athro gwadd yn y brifysgol, y sylwadau mewn grŵp ar Facebook, ynghyd â llun o arwydd dwyieithog.
Mae’r academydd wedi bod dan y lach ar X (Twitter gynt), gyda llawer yn ymateb i’w eiriau’n dweud eu bod cwyno’n swyddogol wrth Brifysgol Wrecsam.
Arwyddion dwyieithog yn ‘beryglus’
“Maen nhw’n ddryslyd gan eu bod yn cynnwys gwybodaeth amherthnasol ac – i’r rhan fwyaf o bobl – gwybodaeth annealladwy,” meddai Dr Nigel Hunt yn ei neges yn y grŵp ‘Petty Rage’ ar Facebook.
“Gall arwyddion ffyrdd mewn dwy iaith fod yn beryglus gan ei bod yn cymryd mwy o amser i benderfynu ar y neges.
“Gan nad yw’r rhan fwyaf o bobol yng Nghymru hyd yn oed yn deall yr arwyddion hyn (mae’r Gymraeg yn gostwng er gwaethaf yr ymdrechion i’w phoblogeiddio) yna defnyddiwch Saesneg os gwelwch yn dda.”
Bu ymateb cryf i’w sylwadau ar X, gyda channoedd o bobol yn rhannu llun o’i sylwadau.
“Mae’n annerbyniol bod dyn sy’n taflu sylwadau gwrth-Gymreig o’r fath yn cael dysgu yn unrhyw le yng Nghymru, heb sôn am un o’n prifysgolion,” meddai un.
“@WrexhamUni Yw’r math hwn o ymddygiad yn dderbyniol gan un o’ch staff?”
Ychwanegodd un arall fod “hyn yn agwedd warthus gan un o’ch athrawon @WrexhamUni!”
“Mae dyletswydd ar eich staff i drin eich myfyrwyr Cymraeg gyda pharch, nid galw eu hiaith yn “amherthnasol” yw’r ffordd i wneud hyn,” meddai.
“Siomedig iawn.”
Y brifysgol yn ymddiheuro
Mae Prifysgol Wrecsam yn dweud y byddan nhw’n ymchwilio i’r mater.
“Yn gyntaf oll, hoffem ymddiheuro am y tramgwydd a achoswyd gan y sylwadau hyn – ac rydym wrthi’n ymchwilio i’r mater hwn yn fewnol,” meddai llefarydd ar ran y brifysgol.
“Rydym yn awyddus i bwysleisio nad yw’r sylwadau hyn yn adlewyrchu barn na gwerthoedd ein prifysgol na’i staff.
“Rydym yn falch o fod yn sefydliad Cymreig ac yn falch o’n hanes a’n treftadaeth yng Nghymru.
“Rydym hefyd wedi ymrwymo i hyrwyddo a dathlu’r Gymraeg, ac rydym yn falch o ddweud bod mwy o fyfyrwyr nag erioed yn cael cyfleoedd i astudio’n ddwyieithog ar draws ystod o’n cyrsiau ym Mhrifysgol Wrecsam, diolch i weithredu ein Strategaeth Academaidd a’n Cynllun Gweithredu Cymraeg ym mis Tachwedd 2022.
“Fel sefydliad, rydym hefyd wedi ymrwymo i Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011 ac fel rhan o’r ddeddfwriaeth – mae gan y Gymraeg statws cyfartal â’r Saesneg ac ni ddylid ei thrin yn llai ffafriol.”