Mae cynghorydd Llafur wedi cael ei atal am sylwadau wnaeth e am yr argyfwng rhwng Israel a Gaza.

Fe wnaeth y Cynghorydd Miqdad Al-Nuaimi, sydd wedi cynrychioli Llafur ar Gyngor Dinas Casnewydd ers 2000, ei sylwadau ar X – Twitter gynt.

Cafodd y sylwadau eu gwneud nos Sadwrn (Hydref 7) wrth i Israel ddechrau ymateb wedi i grŵp terfysgol Hamas ymosod ar Israel y bore hwnnw.

Yr ymosodiad gan Hamas ar Israel yw’r diweddaraf mewn hanes hir o wrthdaro rhwng dau wrthwynebydd gwleidyddol rhanedig iawn.

Mewn ymateb, mae lluoedd Israel wedi bod yn cynnal cyrchoedd ar dargedau yn Gaza ac wedi rhybuddio pobol yno i adael eu cartrefi a symud i ganol dinasoedd neu ganolfannau lloches.

Mae Gweinidog Amddiffyn Israel wedi gorchymyn rhoi Llain Gaza “dan warchae llwyr”, a thorri cyflenwadau bwyd, tanwydd, trydan a dŵr.

Erbyn hyn, mae 1,000 o bobol wedi cael eu lladd yn Israel, a thros 800 wedi cael eu lladd gan gyrchoedd ar Gaza.

Mae’n debyg bod tua 100 i 150 o Israeliaid wedi cael eu herwgipio ac yn cael eu dal fel gwystlon hefyd, ac mae Hamas yn dweud na fyddan nhw’n trafod eu rhyddhau nes “diwedd y frwydr”.

‘Sefyll yn gadarn’

Mae GB News yn adrodd bod y cynghorydd wedi cael ei atal rhag bod yn aelod o’r Blaid Lafur, ac y bydd ymchwiliad yn cael ei gynnal.

Wrth ymateb, dywed Sam Rowlands, llefarydd llywodraeth leol y Ceidwadwyr Cymreig, ei bod hi’n “peri pryder eithriadol bod Cynghorydd Llafur yn meddwl ei bod hi’n dderbyniol datgan barn mor wrth-semitaidd, yn enwedig ar ôl digwyddiadau ofnadwy’r penwythnos”.

“Rhaid sefyll yn gadarn ar hyn a chydsefyll â’r Israeliaid yn erbyn yr ymosodiadau terfysgol na chafodd eu pryfocio,” meddai.

Grŵp milwriaethus Palesteinaidd sy’n rheoli Llain Gaza yw Hamas, ac maen nhw eisiau disodli Llywodraeth Israel â gwladwriaeth Islamaidd.

Ers 2007, yn fuan ar ôl i Hamas gipio grym yn Gaza yn 2006, mae Israel wedi bod yn rheoli’r awyr uwchben Gaza, ynghyd â’r arfordir, ac yn rheoli pwy a beth all fynd i mewn ac allan.

Yn yr un ffordd, mae’r Aifft yn rheoli pwy sy’n mynd a dod o’r Llain ar eu ffin nhw â Gaza.

Llain Gaza

Andrew RT Davies yn galw am oleuo’r Senedd gyda lliwiau baner Israel

Elin Wyn Owen

“Mae’n [rhoi] neges hollol hiliol fod yr Israeliaid yn bwysicach na Phalestiniaid,” medd Ffred Ffransis