Mae’r syniad o oleuo’r Senedd gyda baner Israel yn “neges hollol hiliol fod yr Israeliaid yn bwysicach na Phalestiniaid,” yn ôl yr ymgyrchydd Ffred Ffransis.
Daw awgrym Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, i oleuo’r senedd yn lliwiau baner Israel wedi ymosodiad annisgwyl gan Hamas ar Israel fore Sadwrn (Hydref 7).
Yr ymosodiad gan Hamas ar Israel yw’r diweddaraf mewn hanes hir o wrthdaro gwaedlyd rhwng dau wrthwynebydd gwleidyddol rhanedig iawn.
Mewn ymateb, mae lluoedd Israel wedi bod yn cynnal cyrchoedd ar dargedau yn Gaza ac wedi rhybuddio pobol yno i adael eu cartrefi a symud i ganol dinasoedd neu ganolfannau lloches.
Mae Gweinidog Amddiffyn Israel wedi gorchymyn rhoi Llain Gaza “dan warchae llwyr”, a thorri cyflenwadau bwyd, tanwydd, trydan a dŵr.
Mae dros 600 o bobol wedi marw yn Israel a dros 500 o bobol wedi marw yn Gaza ers yr ymosodiadau gan Hamas ar Israel, gyda miloedd yn rhagor wedi eu hanafu.
Beth yw Hamas?
Grŵp milwriaethus Palesteinaidd sy’n rheoli Llain Gaza yw Hamas.
Mae’r grŵp wedi addo “dinistrio” Israel ac eisiau ei disodli â gwladwriaeth Islamaidd, ac mae Hamas wedi bod ymladd yn erbyn Israel ers iddo gipio grym yn Gaza yn 2007.
Ers hynny, mae Israel hefyd wedi ymosod ar Hamas dro ar ôl tro gydag ymosodiadau o’r awyr.
Mae Israel yn rheoli’r awyr uwchben Gaza, ynghyd â’r arfordir, ac yn rheoli pwy a be all fynd mewn ac allan. Yn yr un ffordd, mae’r Aifft yn rheoli pwy sy’n mynd a dod o’r llain ar eu ffin nhw â Gaza.
‘Pwysig sefyll gyda phawb sydd yn dioddef’
Un sy’n anghytuno â galwad Andrew RT Davies ydy’r ymgyrchydd Ffred Ffransis.
Petai’r Senedd yn mynd ymlaen â’r alwad, mae’n galw am oleuo’r Senedd yn lliwiau Palesteina hefyd.
“Mae angen uniaethu gyda phobloedd sydd mewn dioddefaint mewn pryder mawr ar y funud,” meddai wrth golwg360.
“Mae’n bwysig ofnadwy bod goleuo’r Senedd i fyny yn digwydd mewn lliwiau Palesteina hefyd.
“Fel arall mae’n neges hollol hiliol fod yr Israeliaid yn bwysicach na Phalestiniaid, ac mae gwladwriaeth Israel ar y funud, nid yn unig yn bomio Gaza, ond yn atal cyflenwad bwyd a dŵr i Gaza hefyd – wedi’i anelu at ladd sifiliaid.
“Mae’n bwysig ofnadwy sefyll gyda phawb sydd yn dioddef yn y cyfnod yna, dim bod yn rhan o’r agenda hiliol sydd yn y Gorllewin.”
‘Cannoedd os nad miloedd o sifiliaid yn mynd i gael eu lladd’
Yn ôl Ffred Ffransis, mae hefyd angen i’r Gorllewin rybuddio Israel y bydd canlyniadau i dorri cyflenwad dŵr, bwyd, tanwydd a thrydan Gaza.
“Yr hyn mae angen i Senedd Cymru a seneddau eraill y byd ei wneud yn hawdd iawn ydy adrodd yr hyn sydd wedi digwydd, ond mae yna drychineb enfawr ar fin digwydd,” meddai wrth golwg360.
“Mae angen rhybuddio gwladwriaeth Israel mai trosedd ryfel yw atal cyflenwad dŵr a bwyd i’r ardal yma.
“Does ganddyn nhw ddim hawl mewn cyfraith ryngwladol dros lain Gaza, ac mae atal bwyd a dŵr rhag mynd i mewn yn drosedd rhyfel.
“Mae’n gwbl amlwg hefyd bod y bomio dwys ar ardal sydd traean maint Ceredigion yn mynd i olygu fod yna gannoedd os nad miloedd o sifiliaid cwbl ddiniwed yn mynd i gael eu lladd.
“Mae angen rhybuddio llywodraeth Israel y bydd yna ganlyniadau o ran cyfraith ryngwladol os ydyn nhw’n mynd ymlaen i wneud hyn.”