Mae bron i 30,000 o swyddi manwerthu wedi diflannu yng Nghymru ers 2010, yn ôl dadansoddiad newydd.

Cafodd yr ystadegau eu datgelu gan undeb GMB wrth i’r olaf o siopau Wilko gau eu drysau dros y penwythnos, gan gynnwys siop Porthmadog, Castell-nedd, Caerfyrddin, Caerdydd ac Abertawe.

Yn ôl yr undeb, mae 29,161 o swyddi mewn siopau wedi diflannu dros y 13 mlynedd ddiwethaf ers i’r Ceidwadwyr ddod i rym yn San Steffan.

Wrth siarad yng Nghynhadledd y Blaid Lafur yn Lerpwl ddoe (dydd Llun, Hydref 9), fe wnaeth yr undeb rybuddio y bydd mwy o swyddi’n diflannu drwy wledydd Prydain heb ddiwygiadau economaidd.

Mae’r undeb eisiau gweld gwell amddiffynfeydd ar gyfer gweithwyr sy’n cael eu diswyddo, a chosbau llymach i bobol sy’n ymddwyn yn ymosodol at weithwyr mewn siopau.

‘Wynebu dirywiad angheuol’

Mae angen gwell cefnogaeth ar unwaith i gymunedau a gweithwyr sy’n wynebu cael eu diswyddo wrth i gwmnïau fynd i’r wal, yn ôl Andy Prendergast, Ysgrifennydd Cenedlaethol GMB.

“Siopau’r stryd fawr ydy calon ein cymunedau, ond dydy cwsmeriaid na gweithwyr yn cael bargen dda,” meddai.

“Mae’r ffigurau syfrdanol hyn yn ein hatgoffa nad Wilko oedd y cyntaf, ac nad y nhw fydd yr olaf chwaith.

“Dyna pam fod GMB yn galw ar y Blaid Lafur i weithredu eu haddewid i newid y system gyfraddau busnes, cryfhau hawliau diswyddo a chyflwyno gofynion isafswm perchnogaeth ar gyfer manwerthwyr cenedlaethol hollbwysig.

“Fel arall, mae’n beryg i’r stryd fawr wynebu dirywiad angheuol.”