Mae’n bosib y bydd cerflun pren o delyn yn cael ei osod ar ochr ffordd yng Nghaerwys i gynrychioli hanes eisteddfodol y pentref yn Sir y Fflint.
Mae adran gynllunio Cyngor Sir y Fflint wedi derbyn cais gan Gyngor Tref Caerwys i osod y delyn a chreu ardal eistedd ar ddarn o wair ger y B5122 yn y pentref.
Byddai’r delyn dderw yn dair neu bedair troedfedd o uchder, yn ôl datganiad cynllunio gafodd ei gyflwyno gyda’r cais gan glerc y Cyngor Tref.
Dan y cynlluniau, byddai’r plinth hefyd yn dair i bedair troedfedd o uchder, a’r tannau telyn wedi’u gwneud o gopr.
Byddai mainc bren hefyd yn cael ei gosod tu ôl i’r delyn, a byddai coed yn cael eu plannu yno.
‘Cartref yr Eisteddfod’
Mae’r datganiad cynllunio yn rhoi amlinelliad o hanes Eisteddfodau Caerwys, gafodd eu harwain gan y teulu Mostyn o Blas Mostyn yn y 1500au, yn ystod teyrnasiad Elizabeth I.
“Datganodd Elizabeth I mai Caerwys oedd ‘cartref yr Eisteddfod’,” meddai’r datganiad cynllunio.
“Cyhoeddodd Elizabeth ddatganiad a oedd yn awdurdodi unrhyw un sy’n honni ei fod yn fardd neu’n gerddor i ddod at ei gilydd a chael gwrandawiad a’u barnu.
“Pwrpas yr Eisteddfod oedd didoli’r beirdd a’r cerddorion crwydrol ar y naill law, oddi wrth y crwydriaid, cardotwyr a bysgwyr.
“Roedden nhw wedi cael cymaint o lond bol ar geisio dilyn eu galwedigaeth yn wyneb camdriniaeth nes iddyn nhw geisio perswadio’r Frenhines – yn llwyddiannus – i roi caniatâd iddyn nhw gynnal gornest i brofi eu gwerth.”
Y teulu Mostyn yn ‘hyrwyddo diwylliant Cymru’
Yn ôl y datganiad cynllunio, cafodd 55 o bobol drwyddedau oedd yn rhoi’r hawl iddyn nhw deithio Cymru a Lloegr i berfformio eu doniau.
“Cynhaliwyd yr Eisteddfod yn Hen Neuadd y Dref, Caerwys – a oedd y tu ôl i Dŷ Compton, ger sgwâr y dref,” meddai.
“Cafodd teyrngarwch y teulu Mostyn i hyrwyddo diwylliant Cymru ei ddangos gan eu cysylltiad ag Eisteddfodau, ac yn enwedig y rhai a gynhaliwyd yng Nghaerwys yn 1523 a 1567/8.
“Ar y ddau achlysur, chwaraeodd pennaeth y teulu Mostyn ran bwysig yn y sefydliad a’r feirniadaeth.
“Mae’r comisiwn gwreiddiol ar gyfer yr ail Eisteddfod, a roddwyd o dan awdurdod Elizabeth I, dal yn Neuadd Mostyn.
“Mae’r ddogfen hon yn datgan bod mai William Mostyn gafodd gyflwyno a rhoddi’r darian arian i delynor gorau Gogledd Cymru.
“Mae’r delyn arian hon hefyd dal ym meddiant y teulu.”
‘Cadw ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol’
Mae’r datganiad cynllunio yn ychwanegu bod y delyn yn symbol o lwyddiant Caerwys hyd heddiw, er ei bod hi’n parhau mewn dwylo diogel yn Neuadd Mostyn.
“Mae Cyngor Tref Caerwys yn dymuno diogelu’r llwyddiant hanesyddol hwn ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol,” meddai.
“Er bod cofnodion gwreiddiol ysgrifenedig, gan gynnwys digideiddio’r llwyddiant hwn, byddai replica bren o’r delyn arian yn dangos atgof gweledol ac yn diogelu’r hanes hwn ymhellach ar gyfer y dyfodol.
“Mae’r cyngor tref wedi comisiynu’r cerfiwr a’r cerflunydd Ian Murray i greu’r gwaith pren.”
Er bod y gwaith o greu’r delyn wedi dechrau, os na fydd y cais cynllunio yn llwyddiannus yna bydd y Cyngor Tref yn ystyried ei rhoi yn rywle arall.
Bydd cynllunwyr Cyngor Sir y Fflint yn gwneud penderfyniad ar y cais maes o law.