Mae trefnwyr Gŵyl Ffilm LHDTC+ Gwobr Iris wedi cyhoeddi pedair sesiwn Sgyrsiau Iris yn ystod yr ŵyl chwe niwrnod, gan gynnwys sesiwn arbennig yn dathlu gwaith yr awdur Russell T. Davies.

Bydd yr ŵyl, sy’n agor yng Nghaerdydd yr wythnos hon, yn gyfle i gyfarfod â rhai sy’n gyfrifol am deledu a ffilm cwiar sydd ar gael heddiw, wrth groesawu rhai fel Euros Lyn, Emily Garside a Russell T. Davies.

Bydd sesiwn newydd ar gyfer eleni hefyd, sef  Yr Archif Queer – i mewn neu allan!, sy’n debyg i Ystafell 101 ar gyfer ffilm a theledu cwiar, fydd yn cael ei llywio gan Paul ‘Stumpy’ Davies, y Mr Gay Cymru cyntaf ag anabledd corfforol.

Bydd y pedair sesiwn yn cael eu cynnal ym Mhencadlys Iris yn sinema Vue yng Nghaerdydd.

‘Mae ei waith wedi bod yn rhan o fy magwraeth i’

Ddydd Iau (Hydref 12), bydd Dr Emily Garside, yr awdur o Gaerdydd, yn trafod ei llyfr Gay Aliens and Queer Folk.

“Mae Gay Aliens and Queer Folk yn plymio’n ddwfn i’r naratifau cwiar mae Russell T. Davies wedi dod i’n sgriniau, gan archwilio sut y creodd pob gwaith ofod newydd i straeon LHDTC+ fynd i mewn i’n hystafelloedd byw, ac edrych ar eu heffaith ar y bobol a welodd eu hunain yn cael eu hadlewyrchu ar deledu prif ffrwd, yn aml am y tro cyntaf,” meddai.

“Wrth gyhoeddi’r llyfr, dw i wedi darganfod, fel y dywedodd un perchennog siop lyfrau wrtha i, bod pobol yn ei weld fel eu llyfr ‘nhw’, ac yn teimlo eu bod yn cael eu gweld o’u herwydd. Boed yn nerdiness neu’n queerness, neu’r ddau, mae’n ymddangos taw cysylltiad â straeon Davies sy’n tynnu pobol i mewn.”

Dewisodd Emily Garside ysgrifennu am waith Russell T. Davies yn bennaf oherwydd amrywiaeth y gwaith mae wedi’i wneud.

“Yn hytrach na chanolbwyntio ar un sioe yn unig (fel y mae llyfrau blaenorol wedi’u gwneud ar gyfer y llyfr a’r theatr), roedd hon yn daith sy’n neidio rhwng gwahanol ffurfiau ac arddulliau,” meddai.

“Mae’r ffaith hefyd bod Davies yn cynnig cyfle i siarad am gymaint o bynciau queer a phethau fel gwleidyddiaeth, Cymreictod a menywod.

“Ond mae ei waith wedi bod yn rhan o fy magwraeth i.

“Ni fydd yn diolch i’r un ohonom am awgrymu ei fod yn ddigon hen i fod wedi magu sawl cenhedlaeth o wylwyr teledu queer nawr, ond mae’n wir (ac roedd rhai ohonom yn ifanc iawn rwy’n addo).”

Y sesiynau

Llawenydd Queer gyda chyfarwyddwr Heartstopper, Euros Lyn

Dydd Mercher, Hydref 11 am 10.30yb.

Bydd Euros Lyn, y cyfarwyddwr Cymreig y tu ôl i Heartstopper ar Netflix, yn trafod y gyfres a’i heffaith, ynghyd â’i yrfa deledu – o Doctor Who i Sherlock a Happy Valley.

Aliens Hoyw a Phobl Queer

Dydd Iau, Hydref 12 am 10.30yb

Mae’r awdur Emily Garside yn trafod ei llyfr archwiliadol newydd ‘Gay Aliens and Queer Folk’, gan blymio’n ddwfn i gyfresi a bydoedd yr arloesol Russell T. Davies.

Yr Archif Queer – i mewn neu allan!

Dydd Gwener, Hydref 13 am 10.30yb

A fyddech chi’n achub Brokeback Mountain gan Ang Lee i genedlaethau’r dyfodol ei gweld? Bydd pedair ffilm queer clasurol i’w hachub, ond dim ond un sy’n gallu cael ei dewis. Bydd y panel yn ceisio cyflwyno achos i achub eu ffilm enwebedig. Ymhlith y panelwyr mae Jacqui Lawrence, Cymrawd Iris ac enillydd BAFTA; Cinder Chou, awdur a chyfarwyddwr sydd bellach yn gweithio ym maes cynhyrchu ffilmiau ac yn aelod o reithgor y ffilmiau byrion rhyngwladol; Adam Silver, cynhyrchydd ffilm a dosbarthwr yn TLA Entertainment Group, a chynhyrchydd Captain Faggotron Saves the Universe, sy’n cael ei dangos nos Wener; a Noel Sutton, cynhyrchydd ffilmiau a chyn-Gyfarwyddwr Gŵyl Ffilm LHDT Dulyn.

 Sgwrs gyda Russell T Davies

Dydd Sadwrn 14 Hydref 2023, 10.30yb

Cyn ei ddychweliad hirddisgwyliedig i Doctor Who, bydd y sgriptiwr arloesol o Gymru yn trafod ei yrfa a’r prosiectau wnaeth dorri tir newydd – gan gynnwys Queer as Folk, It’s a Sin, Years and Years, Bob & Rose, Cucumber, Casanova, Torchwood, Doctor Who a Nolly.

Yn ogystal â’r sgyrsiau hyn, bydd pob rhaglen ffilm fer yn Iris yn cael ei dilyn gan sesiwn holi ac ateb gyda gwneuthurwyr ffilmiau gwadd o bob cwr o’r byd.

‘Rhywbeth nad yw Netflix yn cynnig’

“Rwy’n caru Netflix a llwyfannau eraill y gwnaethom syrthio mewn cariad â nhw yn ystod y pandemig,” meddai Berwyn Rowlands, Cyfarwyddwr Gŵyl Ffilm Gwobr Iris.

“Yr hyn rwy’n ei garu am ein gŵyl ym mis Hydref yw bod Caerdydd yn troi yn genhedloedd unedig answyddogol y byd ffilm LHDTC+.

“Fel aelod o’r cyhoedd, rydych chi’n cael cwrdd â chymaint o wneuthurwyr ffilm yn Iris.

“Mae hyn yn rhywbeth nad yw Netflix yn ei gynnig.

“Yn Iris, rydyn ni’n gwylio ffilmiau ac yn siarad am ffilmiau, ac rydyn ni’n gyffrous iawn i groesawu Euros, Russell, Emily yn ôl i’r ŵyl.”