Rogue Jones sydd wedi ennill Gwobr Gerddoriaeth Gymreig 2023 a £10,000 am eu halbwm Dos Bebés ar label Libertino.
Derbyniodd yr artistiaid buddugol – Ynyr Morgan Ifan a Bethan Mai o Gwm Gwendraeth – y wobr mewn seremoni fawreddog neithiwr (nos Fawrth, Hydref 10) yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, lle derbyniodd Dafydd Iwan Wobr Ysbrydoliaeth hefyd.
Cafodd yr enillydd ei gyhoeddi gan Siân Eleri, cyflwynydd BBC Radio Cymru a Radio 1, a bydd y wobr ariannol yn mynd tuag at ddatblygu gyrfa gerddorol Rogue Jones.
Yr artistiaid eraill ar y rhestr fer oedd Cerys Hafana, CVC, Dafydd Owain, H Hawkline, Hyll, Ivan Moult, John Cale, Mace The Great, Minas, Overmono, Sister Wives, Stella Donnelly, Sŵnami ac Ynys.
Mae’r wobr yn agored i albwm o unrhyw genre o gerddoriaeth Gymreig.
🖤 Llongyfarchiadau @Rogue_Jones!
🔥 #WMP2023 winners! pic.twitter.com/aH7MlUWR8C
— Welsh Music Prize (@welshmusicprize) October 10, 2023
Gwobr Ysbrydoliaeth ac enillwyr eraill
Enillydd y Wobr Ysbrydoliaeth eleni oedd Dafydd Iwan, fu’n dathlu ei ben-blwydd yn 80 oed yn ddiweddar.
Yn ôl Huw Stephens, cyd-sylfaenydd y Wobr Gerddoriaeth Gymreig, mae’n derbyn y wobr am “ei weledigaeth, ei waith a’i gerddoriaeth”.
Bydd Dafydd Iwan yn canu ‘Yma O Hyd’ cyn gêm bêl-droed Cymru yn erbyn Gibraltar ar y Cae Ras heno (nos Fercher, Hydref 11).
Enillwyr y wobr Triskell oedd Dom & Lloyd, Half Happy a Talulah, a bydd y tri ohonyn nhw’n derbyn £5,000 yr un tuag at ddatblygu eu gyrfaoedd ym myd cerddoriaeth.
Cafodd y wobr ei sefydlu yn 2011 gan y DJ a chyflwynydd Huw Stephens a John Rostron, yr ymgynghorydd cerdd, a chaiff yr enillydd ei ddewis gan banel bob blwyddyn.