Mae Elin Owen wrth ei bodd gyda chaneuon newydd gan gwpwl sy’n dod â rhywbeth unigryw a ffresh i’r Sîn Roc Gymraeg…
Dw i ddim yn cofio’r tro diwethaf i fi fwynhau casgliad cyfan o ganeuon cystal â Dos Bebés gan Rogue Jones.
Dyma albwm sy’n crisialu cariad o bob math mewn modd pur a theimladwy, ond mae rhan fawr ohono yn ymroddedig i gariad dau aelod Rogue Jones – Bethan ac Ynyr – at eu plant, a’u profiadau o fod yn rhieni.
Dechreuodd Bethan ac Ynyr sgrifennu’r albwm pan roedden nhw’n disgwyl eu cyntaf-anedig, Tanwen Antur, a gorffennon nhw’r campwaith ar ôl i’w mab, Mabon Blaidd, gyrraedd y byd.
Mae Dos Bebés yn cofnodi a thrafod y profiadau hynny o ddod yn rhieni am y tro cyntaf a’r blynyddoedd sydd wedi dilyn.
Mawredd rhoi genedigaeth
Un trac sy’n sefyll allan ar Dos Bebés ydy ‘1,2,3’. Eisoes wedi’i rhyddhau fel sengl ddwbl gyda ‘Fflachlwch Bach’, mae’r gân am gariad a’r teimlad o geisio amgyffred maint y cariad gallwch deimlo at rywun. Mae hi’n berthnasol i unrhyw fath o gariad, ond yn yr achos hwn fe’i hysgrifennwyd wrth i ferch Bethan ag Ynyr ddathlu pen-blwydd yn dair oed.
Ar y gân mae Bethan yn ceisio mynegi a deall y cariad roedd hi’n ei deimlo ar y pryd at ei phlentyn, a mawredd rhoi genedigaeth – yr her, gorfoledd a holl fregusdra amrwd y profiad.
Ar ‘1,2,3’ mae Bethan yn gofyn:
‘Shwt gall rhywbeth mor bitw
Siglo’r ddaear, tanio iâs?’
Fel nifer o’r traciau ar yr Dos Bebés, cyfansoddwyd y gân yn wreiddiol ar y piano gan Bethan. Ac ar y trac terfynol sydd ar yr albwm mae Ynyr a Bethan y chwarae’r utgyrn gyda Ioan Hefin, y dyn sydd tu ôl i’r solo trwmped ar ‘Gloria Tyrd Adre’ gan Eryr Wen. Fe wnaeth y ddau hefyd greu fideo ar gyfer y gân hon, ac mae yn amlwg ei bod yn golygu lot.
“Mae honna’n un personol ac o’r galon,” meddai Bethan.
“Fi’n gobeithio mae e fel rhyw fath o time capsule ar gyfer y plant, mae’n bendant yn snapshot o’r blynyddoedd hyn.
“Mae [y plant] wedi eu gwau’n ddwfn mewn i’r albwm,” pwysleisia Bethan, cyn egluro bod y trac ‘155 bpm’ ar yr albwm wedi deillio o samplo recordiad o’r tro cyntaf iddyn nhw glywed curiad calon eu merch, Tanwen.
Ond mae’r rhieni cerddorol yn awyddus i chi ddeall bod mwy i’r albwm na chaneuon am fagu plant.
“Mae pawb ohonom ni wedi profi cariad o ryw fath ac wedi profi byw, a’r pegynau yna o beth yw e i fyw, felly mae’n neges sy’n gallu trosglwyddo i bob person,” meddai Bethan.
Ychwanega Ynyr: “Achos gyda chelf a cherddoriaeth a phopeth, ti ddim jest yn gwrando a gwylio a gwerthfawrogi pobol sydd gyda jest yr un profiadau â ti a gyda’r un storis â ti wedi profi, felly gobeithio dyw e ddim jest i rieni!”
Bethan: “Mae e i bobol sy’n teimlo, ac wedi teimlo’r pegynau a’r eithafion o gariad.
“Bydde ti’n gallu gwrando ar yr albwm heb wir sylwi bod e am hwnna. Achos mae e am gariad ar ddiwedd y dydd, ac mae cael plant jest yn crisialu’r teimlad yna o gariad a phrofiad o fyw a beth yw e i fyw.
“Cariad yw cariad ac mae gyda phawb rhyw fath o brofiad, felly fi’n gobeithio bydd pawb yn gallu cael mas o fe beth yw eu profiad personol nhw o gariad ac o fyw.”
Tai Haf
Nid cân am gariad sy’n agor yr albwm, ond theori chwareus deuawd Rogue Jones am y criw tu ôl i ymgyrch llosgi tai haf Meibion Glyndŵr.
Dim ond un person gafwyd erioed yn euog am gymryd rhan yn yr ymgyrch, ac ar y trac ‘Triongl Dyfed’ mae Bethan ac Ynyr yn dychmygu mai aliens o blanedau pell pell i ffwrdd oedd tu ôl i’r tannau.
Mae ‘Triongl Dyfed’ wedi’i henwi ar ôl rhan o Sir Benfro ble mae nifer yn dweud iddyn nhw weld UFOs yn y 1970au. Yn cael ei chanu am y rhan fwyaf o’r amser o safbwynt yr aliens, mae’r gân yn chwarae ar yr hwiangerdd ‘Mae Gen i Het Tri Chornel’ a darnau o ‘Mae’n Braf Cael Byw Mewn Tŷ Haf’ gan Edward H Dafis. Mae yna gyfeiriad hefyd at Bryn Fôn, a gafodd ei arestio, ar gam, ar amheuaeth o fod yn aelod o Feibion Glyndŵr. At y trac mae Ynyr yn gofyn:
‘Chi wirioneddol yn meddwl taw Bryn Fôn oedd e?’
Mae yna bwnc llosg sy’n sail i’r gân bop am aliens.
“Wrth wraidd ‘Triongl Dyfed’ mae’r broblem o ddiffyg tai fforddiadwy i bobol yn eu hardal nhw,” eglura Ynyr, “a gyda lle ryden ni nawr yn ein bywydau, efallai fy mod i’n meddwl mwy amdano fe nag oeddwn i pan o’n i’n 18, a falle bod bod yn rhiant yn gwneud iti feddwl fwy am ddyfodol dy blant di.
“Ni jest wedi ymdrin â’r pwnc yna mewn ffordd fwy swreal a sili, achos mae lot o gerddoriaeth rydw i’n mwynhau yn gallu bod yn ddoniol – dw i’n meddwl bod hwnna’n rhywbeth sydd efallai ddim yn cael ei werthfawrogi mewn cerddoriaeth.
“Fi’n credu mae bod yn ddoniol yr un mor relevant â bod yn grac neu’n rhamantus.
“Mae’r albwm yn un sy’n mynd i’r pegynau yna o emosiynau pobol, felly mae gyda ti rhai pethau torcalonus ond mae hefyd gyda ti rai pethau rili sili a doniol.
“Maen nhw i gyd mor valid â’i gilydd.”
Ychwanega Bethan: “Mae o i gyd, eto, yn bwydo mewn i’r sbectrwm o fyw a beth yw e – dyw e ddim jest yn un emosiwn, mae o’n hynny i gyd, y doniol a’r dwfn.”
Breuddwydio am Babette
Cân sy’n dilyn ‘Triongl Dyfed’ ydy ‘Babette’, a ddaeth i Bethan yn “fully formed” mewn breuddwyd. Mae pob munud o’r trac yn troi lawr trywydd hollol annisgwyl. Erbyn diwedd y gân mae hi’n cyrraedd crescendo gyda’r piano, gitâr a drymiau’n cystadlu yn erbyn ei gilydd.
“Wnaeth isymwybod fi sgrifennu’r gân, bron i’r gair, yn llawn,” meddai Bethan wrth egluro ei bod yn defnyddio peiriant bach i recordio hi ei hun yn siarad yn ei chwsg tra’n breuddwydio.
“Felly’r oll oedd rhaid i fi wneud oedd ceisio deall fy mharablu cysglyd a hwn oedd y gân ddaeth mas o fe.
“Sai’n siŵr os yw e’n gwneud synnwyr ond mae o’n based ar ffilm o’r enw Babette’s Feast, ond dyw e ddim rili’n ymwneud â’r ffilm – wnes i jest mynd â’r teitl yna a newid o i ‘Babette’s feet’.
“Mae’r fenyw yma o’r enw Babette yn y gân yn trio cael parti i ddathlu. Ond mae pobol wedi dod yn meddwl taw angladd hi yw e, ac maen nhw’n dod a thrio golchi ei thraed hi ac mae hi’n dweud ‘na, mae fy nhraed i’n lân, get off! Dim angladd fi yw e heddi, dewch i gael parti gyda fi – fi’n fyw!’.
“Wrth ddweud e mas yn uchel nawr mae e’n clymu gyda’r thema o ddathlu bod yn fyw a dathlu a joio pob eiliad o fyw.
“Mae Babette yn ein hatgoffa ni o hwnna ac yn gwneud i ni werthfawrogi’r dyddiau yna, ac eto, yn bwydo mewn i’r cyfnod sleep deprived rydyn ni’n mynd trwy ar hyn o bryd gyda babi bach a’r effaith mae hwnna’n cael ar gael a breuddwydion rhyfedd.
“Mae’r caneuon ar yr albwm yn eithaf gwahanol i’w gilydd. Mae pobol efallai’n disgwyl os oes gen ti’r un offeryniaeth ym mhob cân, bydden nhw’n debyg.
“Ond i ni mae hwnna’n gynrychiolaeth o fywyd achos dyw bywyd ddim yn un offeryn, un sŵn. Mae bywyd yn offerynnau tawel, offerynnau swnllyd, caneuon tawelach, caneuon mwy dwys, caneuon fwy sili – mae o i gyd yn adlewyrchiad bod bywyd ddim yn straightforward na thaclus.”
Ynyr: “Wnaethon ni gadw meddwl agored trwy’r broses recordio, fel efo’r albwm gyntaf, gadael i’r gân arwain ble roedd y sŵn yn mynd.
“Os wyt ti’n mynd mewn gyda’r meddylfryd iawn a bod ti ddim yn trio ymladd yn erbyn llif yr afon a mynd gyda fe, ti’n gallu diweddu lan yn rhywle rili sbesial.”
Y Tab, Y Mab a’r Ysbryd Glân
Mae Bethan ac Ynyr yn anelu at rannu’r canu ar draciau Dos Bebés, ond y bwriad wrth roi llais Ynyr yn ganolbwynt I’r gân ‘Y Mab, Y Tad a’r Ysbryd Glân’ ydi rhannu ei bersbectif o fel tad.
“Mae’n trafod bod yn dad a’r disgwyliadau o masculinity weird sy’n cael eu projecto ar ddynion, lle rili y peth pwysig yw bod ti’n caru dy deulu a dy blant a thrio bod yn dad da, a thrio rhoi dy ego i un ochr falle,” meddai Ynyr.
“Ond mae yna bach o hiwmor ynddo fe hefyd achos mae’r rhan fwyaf o gerddoriaeth fi’n hoffi yn defnyddio hiwmor.
“Efallai bod hiwmor yn gwneud pynciau fel hyn yn haws delio efo hefyd ac yn gwneud o’n haws i fi ganu am. Falle byddwn i’n ffeindio canu yn hollol straight-faced am rywbeth dwys fel yna yn anoddach.
“Ond y ffordd arall hefyd ydy gobeithio bod e’n helpu’r gwrandawyr, bod chdi’n gallu gwasgu jôcs mewn.”
Gŵr a Gwraig
Rhwng gweithio, magu plant a’r diffyg cwsg sy’n dod gyda hynny, mae’r cwpwl yn cyfaddef ei bod yn anodd ambell waith i ffeindio’r amser i greu cerddoriaeth gyda’i gilydd, ond yn manteisio ar yr hwyrnos ar ôl rhoi’r ddau fach i’w gwlâu.
“Mae’n eithaf doniol achos ni’n briod, yn codi plant gydag ein gilydd a nawr ni’n gwneud yr albwm a’r fideos i fynd gyda fe gyda’n gilydd,” meddai Bethan.
“Mae’n gwneud e’n haws mewn rhyw ffordd bod ni’n briod, ond mae’n gwneud o’n anodd mewn ffordd arall achos ti ffili switsho off.
“Fi’n credu bod yr albwm rili o’r galon achos fi ag Ynyr yw e, ti ffili rili stwitsho off o hwnna a’r byd ni wedi creu, achos dyna bywyd ni.
“Achos bod amser yn brin, ti’n gweithio mewn ffordd lot fwy greddfol, o’r galon, a gwirioneddol a dewr, achos ti’n gorfod jest mynd amdani – ti’n gwybod bod gyda ti ond hyn a hyn o amser a ti moyn gwneud rhywbeth gwerth chweil sy’n meddwl rhywbeth i ni, ac wedyn gobeithio yn meddwl rhywbeth i rywun arall hefyd.”
Ynyr: “Fi’n credu hefyd achos bod yr agweddau ymarferol o wneud cerddoriaeth yn fwy tricky dyddiau yma, bydden i ddim yn gwneud e os na bydde ni’n wirioneddol yn credu ynddo fe.
“A gobeithio bod o wedi dod mas fel darn o gelf a oedd yn werth ei wneud.”