Roedd Ifor ap Glyn yn awyddus i ddweud hanes y Rhyfel Mawr mewn ffordd newydd – ac mae’r ymdrech wedi mynd ag e ar siwrne saith mlynedd…

Ar ddiwedd ei lyfr diweddaraf, Anwyl Fam, mae Ifor ap Glyn yn ystyried beth sy’n gyfrifol am ei “obsesiwn” gyda hanes milwr o bentref Llanio, Ceredigion a gafodd ei ladd yn y Rhyfel Byd Cyntaf.