Wrth i gwricwlwm newydd gael ei gyflwyno yn ein hysgolion, mae Dr Huw Griffiths wedi bod yn amlinellu’r newidiadau sydd eu hangen yn ein hysgolion er mwyn sicrhau bod ein pobl ifanc yn dysgu am Hanes Cymru.

Yn ei ysgrif olaf ar y mater, mae yn sôn am yr ymateb negyddol fu, ar brydiau, i’r alwad am ddysgu Ein Stori Ni i bob disgybl yng Nghymru.