Bydd Oriel Ffin y Parc yn symud o Lanrwst i Landudno ddechrau’r flwyddyn nesaf.
Agorodd yr oriel, sydd ychydig tu allan i Lanrwst, yn 2010.
Ond y gobaith ydy gallu canolbwyntio’n llwyr ar y gwaith celf ar y safle newydd.
Mae lleoliad gwledig yr oriel bresennol yn hen blasty Bryn Derwen yn golygu bod rhaid iddyn nhw gael caffi er mwyn denu ymwelwyr, medd y cyd-berchennog, ac awydd i symleiddio’r gwaith ydy un o’r rhesymau dros symud.
Fe fydd yr oriel yn cadw ei henw wrth symud i Sgwâr y Drindod yn Llandudno, ac yn agor ar Fawrth 1 y flwyddyn nesaf gydag arddangosfa o waith Sarah Carvell.
Mae’r oriel yn cynrychioli 40 o artistiaid, a’r rhan fwyaf helaeth ohonyn nhw yn Gymry neu â chysylltiadau Cymreig.
“Dw i wedi dewis Llandudno gan ei bod hi’n hawdd i nifer o’m cleientiaid gyrraedd yno, ac mae yna lot o gaffis gerllaw felly does dim rhaid i ni feddwl am hynny a gallwn ni ganolbwyntio ar y celf,” meddai Ralph Sanders, sy’n rhedeg Oriel Ffin y Parc gyda Roland Powell, wrth golwg360.
“Dw i wir yn caru’r celf, ond mae popeth arall yn dipyn o waith ychwanegol.
“Wrth i fi fynd yn hŷn, dw i wir eisiau symud ymlaen gyda’r oriel gelf a chael gofod celf hyfryd, ond peidio poeni am y caffi a’r ochr yna o bethau a gallu canolbwyntio’n gyfangwbl ar yr oriel.
“Mae fy mhartner, Roland, yn gorfod coginio gyda’r nos ar gyfer y diwrnod wedyn, ynghyd â gweithio yn y dydd, ac rydyn ni’n byw yn yr oriel – sy’n hyfryd ar un llaw, ond dydych chi byth wir yn gadael gwaith.”
Bydd yr oriel newydd yn cynnwys arddangosfeydd ar bob llawr o’r adeilad newydd, gyda lifft rhwng pob llawr, a byddan nhw’n cynnal tua deuddeg arddangosfa y flwyddyn.
“Dw i’n awyddus i fod y lle i brynu celf Cymraeg a phrynu celf yng Nghymru,” meddai Ralph Sanders wedyn.
“Dw i’n edrych ymlaen at yr her.”
“Apêl” cael mwy nag un oriel mewn tref
Fel oriel fasnachol, nod Ffin y Parc ydy gwerthu darnau celf gwreiddiol eu hartistiaid, ond maen nhw’n gobeithio gallu cydweithio ag Oriel Mostyn yn Llandudno i hyrwyddo’r celf yn y dref.
“I fi, mae cael mwy nag un oriel mewn tref yn apêl,” meddai Ralph Sanders wedyn.
“Mae Mostyn yn dda ar ganolbwyntio ar gelf gyfoes, gysyniadol tra dw i’n canolbwyntio ar gelf mae pobol eisiau ei brynu.
“Gan fod Mostyn yn cael eu hariannu ag arian cyhoeddus, dydyn nhw ddim yn gorfod gwerthu celf – maen nhw’n gallu gwthio’r ffiniau a herio’u hunain.
“Mae e’r un fath efo siopau hen bethau, os oes gennych chi fwy nag un mewn tref, mae’n atynnu pobol.
“Dw i’n gobeithio bydd y bobol sy’n dod ata i’n mwynhau’r Mostyn a’r ffordd arall rownd, fydda i bendant yn hyrwyddo’r lle oherwydd dw i’n hoffi’r Mostyn ac yn dod ymlaen â nhw – mae hi’n gwneud synnwyr ein bod ni’n annog pobol i ddod i Landudno i weld amrywiaeth dda o gelf.”