Mae’r tocynnau i ddau gyngerdd Y Curiad: Ddoe Heddiw ac Yfory ym Mangor ym mis Ionawr wedi gwerthu i gyd mewn llai na 24 awr.

Aeth y tocynnau ar werth fore ddoe (dydd Mawrth, Hydref 10) ar gyfer y perfformiadau ar Ionawr 20 a 21 yng nghanolfan Pontio.

Roedd pob un wedi’u gwerthu erbyn 10 o’r gloch fore trannoeth.

Mae Theatr Bryn Terfel yn dal tua 420 o bobol ar y tro.

Bydd yn rhoi cyfle arall i bobol glywed cyngerdd agoriadol Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd, 2023.

Roedd nifer o bobol wedi colli allan ar y cyfle adeg hynny ar ôl i’r tocynnau hynny i gyd werthu ymhen ychydig oriau o fynd ar werth.

Sêr

Y grŵp gwerin Pedair – y cerddorion Gwenan Gibbard, Meinir Gwilym, Siân James a Gwyneth Glyn – yw sêr y noson, sy’n perfformio gydag aelodau Côr Gwerin yr Eisteddfod, dros 200 o gantorion i gyd.

Maen nhw’n canu caneuon Pedair ynghyd â threfniannau o ganeuon traddodiadol eraill yn ymwneud â’r môr a Llŷn ac Eifionydd.

Hefyd yn cyfrannu at y cyngerdd mae rhai o enwau mawr y byd gwerin cyfoes.

Bydd Twm Morys, Gwilym Bowen Rhys, Patrick Rimes, Elidyr Glyn (o’r grŵp Bwncath), a’r clocsiwr Tudur Phillips yn perfformio mewn deuawdau, triawdau ac yn unigol.

“Mi rydan ni wrth ein bodd bod y tocynnau wedi gwerthu mor sydyn yn Pontio,” meddai Gwenan Gibbard.

“Mi fydd yn braf cael pawb yn ôl at ei gilydd ar gyfer dau berfformiad arall.

“Roedd yna deimlad gwirioneddol arbennig yn y cyngerdd ym Moduan ac mi roedd sôn adeg hynny am y posibilrwydd o allu ei gynnal eto, a diolch i’r Eisteddfod a Pontio, mae hyn yn bosib.

“Mae’n fraint, wir, i gael cyfle i wneud rhywbeth mor unigryw – pa mor aml mae’r cyfle yn dod i gael côr o 200 o bobl at ei gilydd i ganu efo band ac artistiaid gwerin?”

Mae hi’n dweud bod yna “deimlad o falchder” ymysg y cerddorion adeg yr Eisteddfod eu bod nhw’n cael cyflwyno ychydig o dreftadaeth gerddorol werinol yr ardal i weddill Cymru.

“Diolch i bawb am gefnogi,” meddai. “Mi edrychwn ymlaen at gael profi’r un wefr, gobeithio, fis Ionawr.”