Terfysg Merthyr 1831, Terfysg Tonypandy 1910 a Therfysgoedd Caerdydd 1919 – dyma ddigwyddiadau pwysig yn hanes Cymru mae’r cerddor Tomos Williams wedi ymateb iddyn nhw ar ei albwm diweddaraf, Cwmwl Tystion II: Riot! sydd yn cael ei chyhoeddi heddiw (dydd Gwener, Hydref 13), ar label Tŷ Cerdd.
Dyma ail bennod project jazz y trwmpedwr a’r cyfansoddwr jazz o Gaerdydd – a gafodd ei fagu yn Aberystwyth – sydd yn ymdrin â digwyddiadau yn hanes a diwylliant Cymru.
Mae’r bennod yma yn canolbwyntio ar derfysgoedd yn hanes Cymru, ond mae’r casgliad saith trac hefyd yn codi cwestiynau am hiliaeth a’n syniad o hunaniaeth fel Cymry.
Fe ddaw’r albwm yn sgîl llwyddiant taith gyntaf Cwmwl Tystion, sef grŵp o gerddorion a deithiodd Cymru yn 2019.
Cerddorion Cymreig oedd yn y band bryd hynny – ar gyfer y fersiwn yma, mi wnaeth y cerddor wahodd dau o fawrion y byd jazz Prydeinig a chantores Gymraeg i ymuno â’r band.
Y cerddorion hynny yw Soweto Kinch (sacsoffôn, rapio), Orphy Robinson (fibraffon, ac allweddellau) a’r gantores Eadyth Crawford.
Maen nhw’n ymuno â dau gerddor arall o fyd jazz Cymru, Aidan Thorne (bâs) a Mark O’Connor (drymiau).
Bu’r grŵp ar daith ym mis Tachwedd a Rhagfyr 2021, a recordio’r albwm newydd yma yng Nghanolfan Taliesin Abertawe, Pontio Bangor a’r Lost ARC yn Rhaeadr Gwy.
“Roedd e’n wir yn wefr cael perfformio gyda nhw dro ar ôl tro ar y daith,” meddai Tomos Williams, gafodd ei fagu yn Aberystwyth.
“Roeddwn hefyd yn awyddus i gynnwys llais Cymraeg yn y bennod yma, felly mae Eadyth Crawford yn cynrychioli’r to ifanc o gerddorion arloesol Cymraeg. Mae Eadyth wir yn dalent unigryw ac mae ei llais yn anhygoel.”
Mae’r cyfansoddiad ‘Riots! Suite’ yn “cynnwys bach o bopeth” ond sy’n creu “cyfanwaith hollol Gymreig”, yn ôl Tomos Williams – “unawdau ffyrnig, byrfyfyrio rhydd, cyfnodau o grŵf, rapio, y felan, alawon gwerin ac emyn Gymraeg.”
Terfysgoedd “llai ffafriol” i ddelwedd Cymru
Pam roedd y cerddor eisiau ymateb yn benodol i Derfysg Merthyr 1831 a Therfysg Tonypandy 1910 – beth sy’n arwyddocaol amdanyn nhw i ni heddiw?
“Y ddau derfysg yma yw’r ddau fwya’ ‘amlwg’ dw i wedi eu dewis yn y cyfansoddiad,” meddai Tomos Williams.
“Merthyr 1831, yn amlwg, am ei bwysigrwydd yn hanes Cymru, a’r cysylltiad â Dic Penderyn, wrth gwrs – ac yn hanes protest o ran hynny. Dyma’r tro cyntaf i’r faner goch gael ei chwifio.
“A Thonypandy 1910, eto, gan ei fod yn un pwysig yn hanes Cymru, a’r cysylltiad â Winston Churchill a’r rheswm am amhoblogrwydd Churchill yn ne Cymru, er gwaetha’r naratif ‘Brydeinig’ ers yr Ail Ryfel Byd; y syniad o’r gweithwyr yn sefyll i fyny dros eu hawliau yn erbyn y meistri.
“Rydyn ni fel Cymry yn hoffi uniaethu gyda hyn yn ein hanes. Mae e’n ffitio’n dda mewn i’n fersiwn ni o hanes, a lle ry’n ni yn gallu gweld ein hunaniaeth, a’n cenedlaetholdeb hyd yn oed, o fewn hanes; y Cymry yn gwrthsefyll gorthrwm y meistri.
“Ond fe wnes i ddewis y ddau derfysg amlwg yma yn fwriadol hefyd – i gyferbynnu gyda’r ddau derfysg arall dw i wedi eu dewis – y Tredegar Riots a Riots Caerdydd – sydd yn dipyn llai adnabyddus ac sydd yn adrodd naratif arall yn hanes Cymru.”
Roedd rhesymau “amwys” yn gyfrifol am yr hyn daniodd Derfysg Tredegar, yn ôl Tomos Williams – “yn bosib iawn ei bod gydag elfen wrth-Semitiaidd”.
“Heb os, mae’r Cardiff Race Riots 1919 yn ddigwyddiad hollol hiliol,” meddai.
“Felly os ydyn ni am berchnogi terfysgoedd sydd yn creu delwedd ddewr neu gryf ohonon ni fel cenedl – mae hefyd angen i ni fel cenedl ddelio gyda’r terfysgoedd eraill yma, sydd tipyn yn llai ffafriol i ni’r Cymry o ran delwedd.
“Dyna pam hefyd roeddwn i am orffen y cyfansoddiad gyda theyrnged i Mahmood Mattan.”
Terfysgoedd Hil Caerdydd oedd y gwrthdaro ar Fehefin 11, 1919 fu rhwng milwyr gwyn yn dychwelyd o’r Rhyfel Mawr a dynion lleol Tre-biwt (sef Tiger Bay) o gefndiroedd Yemeni, Somali ac Affro-Caribïaidd yn bennaf.
Parhaodd y terfysgoedd am dridiau, gan ymledu i Grangetown a rhannau o ganol y ddinas.
Teyrnged i Mahmood Mattan
Y symudiad olaf ar yr albwm yw teyrnged i Mahmood Mattan, y dyn olaf i gael ei ddienyddio yng Nghymru yn 1952, er ei fod yn ddieuog.
“Hiliaeth yr heddlu wnaeth gymryd ei fywyd, ac yna hiliaeth sefydliadol yr heddlu a’r llysoedd,” meddai Tomos Williams.
“Felly roeddwn am i’r gwaith newid gogwydd ychydig ar y diwedd a symud i ffwrdd o’r terfysgoedd i ddelio gyda hiliaeth yn ein cymdeithas yma yng Nghymru.”
Cafodd Mahmood Mattan ei grogi yng ngharchar Caerdydd ar Fedi 3, 1952, ar ôl i lys ei gael yn euog – ar gam – o lofruddio Lily Volpert.
Mi ymddiheurodd Heddlu De Cymru yn swyddogol i’r teulu yn 2022, ynghyd â chyfaddefiad bod eu herlyniad ar y pryd yn gwbl wallus.
Daw teitl y project ‘Cwmwl Tystion’ o’r Beibl, ond mae’r cerddor wedi ei ddyfynnu o gerdd enwog y bardd a’r heddychwr mawr Waldo Williams, ‘Pa Beth yw Dyn?’ lle mae’r bardd yn codi rhai o gwestiynau mawr ein bod.
I agor ac i gloi’r cyfansoddiad, mae Eadyth Crawford yn canu’r alaw werin ‘Aderyn Du’ yn ddigyfeiliant.
Mae’r alaw werin Si Hwi Hwi yn rhan o’r trac ‘Beth yw Byw?’ ac mae alawon gwerin eraill yn frith drwy’r casgliad.
- Bydd perfformiad o Cwmwl Tystion II / Riot! yng Ngŵyl y Llais yng Nghanolfan y Mileniwm Caerdydd nos Sadwrn, Hydref 14