Mae taith Cwmwl Tystion II y trwmpedwr Tomos Williams wedi dechrau, yn dilyn llwyddiant taith ac albwm Cwmwl Tystion, ac mae’n dweud bod “angen i Gymru a’r Cymry fod yn fwy ymwybodol o’n hanes ac hefyd i wynebu rhai gwirioneddau”.
Y tro hwn, mae’r cerddorion byd-enwog Soweto Kinch (sacsoffôn) ac Orphy Robinson (feibroffôn) yn ymuno â Tomos, yn ogystal â’r gantores Gymreig ifanc Eady Crawford a’r cerddorion Aidan Thorne a Mark O’Connor, ochr yn ochr ag effeithiau gweledol byw gan Simon Proffitt, i greu perfformiad byw rhyngweithiol yn dwyn y teitl Cwmwl Tystion II / Riot.
Bydd y band yn perfformio cyfres o’r newydd gan Tomos sy’n cynnwys elfennau o jazz, hip-hop, yr avant-garde a cherddoriaeth werin Gymreig.
Mae’r enw ‘Cwmwl Tystion’ yn deillio o gerdd y bardd Waldo Williams, tra bod y themâu ar gyfer pob symudiad yn tynnu ar wahanol derfysgoedd yn hanes Cymru.
Wedi’i hysbrydoli’n gryf gan waith Wadada Leo Smith, John Zorn a Don Cherry, bydd y gerddoriaeth hefyd yn ystyried themâu hil ac hunaniaeth.
Roedd y perfformiad cyntaf yn Theatr y Werin, Aberystwyth neithiwr (nos Fercher, Tachwedd 24), ac fe fydd y prosiect yn mynd ar daith ledled Cymru ac un gyngerdd yn Cafe OTO, Llundain.
Cerddorion o safon
“Mae’n bleser cael gwahodd cerddorion o safon Soweto Kinch ac Orphy Robinson i ddod i berfformio yng Nghymru a dwi’n edrych ymlaen i’w clywed yn chwarae cyn gymaint ac ydw i i rannu’r llwyfan gyda nhw!” meddai Tomos Williams.
“Mae Soweto yn gerddor unigryw sy’n gallu byrfyfyrio ar y sax a rapio, tra bod Orphy yn un o gonglfeini y sîn jazz Prydeinig ers degawdau.
“Mae mor bwysig dod â cherddorion jazz o’r safon yma i deithio Cymru – dwi’n cofio cael fy ysbrydoli siwd gymaint wrth weld nifer o gewri y byd jazz yng Ngwyl Jazz Aberhonddu yn fy arddegau.
“Dwi wedi cael y cyfle i gyflwyno jazz i wrandawyr Radio Cymru yn ddiweddar ac nawr mae’n fraint i ddod â cherddorion o’r safon yma i berfformio yng nghymunedau Cymru ac i gyflwyno jazz, a cherddoriaeth heriol, gwreiddiol o Gymru i gynulleidfaoedd newydd.
“Dwi hefyd wedi bod yn edmygu Eadyth Crawford o bell ers sbel, ac mae’n bwysig i fi bod y tô ifanc yn cael ei cynrychioli yn y prosiect yma.
“Bydd celf weledol fyw Simon Proffitt hefyd yn ategu pob perfformiad fel ar y daith diwetha’ ac yn gwneud Cwmwl Tystion II/ Riot! yn brofiad cwbl unigryw.”
Cerddoriaeth “heriol”
“Y bwriad gyda’r daith yma yw i greu cerddoriaeth heriol, gwreiddiol gwbl Gymreig, a byddaf yn defnyddio gwahanol derfysgoedd fel teitlau’r symudiadau,” meddai wedyn.
“O derfysg Merthyr yn 1831 i derfysg hiliol Caerdydd yn 1919, mae angen i Gymru a’r Cymry fod yn fwy ymwybodol o’n hanes ac hefyd i wynebu rhai gwirioneddau.
“Bydd y symudiad ola’ yn atgof ar gyfer Mahmood Mattan – y gŵr ola’ iw ddienyddio yng Nghymru. Gŵr o Somalia a gafodd ei brofi yn ddi-euog wedi ei farwolaeth.
“Bydd sesiwn holi ac ateb gyda’r band ar ôl y perfformiadau yn Aberystwyth a Theatr Soar, Merthyr er mwyn trafod ychydig mwy ar rai o’r pynciau a’r themau sy’n cael ei crybwyll gan y gerddoriaeth.
“Dwi’n ddiolchgar iawn am gefnogaeth Canolfan Gelfyddydau Aberystwyth… a hoffwn ddiolch i Dŷ Cerdd a Cyngor Celfyddydau Cymru am noddi’r cyfansoddiad ac am ariannu’r daith.”
CD a chyngherddau
Cafodd CD o gyngerdd byw taith blaenorol y prosiect yn 2019 – Cwmwl Tystion/Witness ei gynnwys ar restr ‘Albym y Flwyddyn’ eleni.
Dyma’r cyngherddau sydd i ddod:
25/11/21 – Neuad Dora Stoutzker, RWCMD, Caerdydd
26/11/21 – Theatr Soar, Merthyr Tudful – Sesiwn Holi ac Ateb ar ôl y perfformiad
27/11/21 – Cafe OTO, Llundain
30/11/21 – Pontio, Bangor
1/12/21 – Lost ARC, Rhaeadr Gwy
2/12/21 – Canolfan Celfyddydau Taliesin, Abertawe