Cafodd y Dywysoges Nest ei cham-drin yn rhywiol gan y Normaniaid er mwyn “bridio” tywysogion iddyn nhw.

Dyna farn yr hanesydd Elin Jones – awdur llyfr newydd ar hanes Cymru, Hanes yn y Tir – mewn erthygl yng nghylchgrawn Golwg.

Mae tudalen ar Nest yn y llyfr, sef merch Rhys ap Tewdwr, yr olaf o dywysogion annibynnol y Deheubarth. Roedd hi’n byw tua 1085 i rywbryd ar ôl 1136.

Yn ôl Elin Jones, mae’r Dywysoges Nest wedi cael cam gan haneswyr a’i disgrifiodd fel un a oedd yn ‘hudo dynion’. Yn ei barn hi, ni chafodd unrhyw reolaeth dros ei bywyd ei hun.

Wedi i’r Normaniaid gipio dau o’i brodyr a’u lladd, cafodd Nest ei hebrwng i lys y Brenin Gwilym Goch (William II) yn ‘garcharor anrhydeddus’. Cafodd blentyn gan Henri, brawd y brenin, ac yna ei rhoi yn wraig i un o’i ffrindiau, Gerallt o Windsor, a chael pump o blant gydag e.

Yn 1109 cafodd ei chipio gan ei chefnder, Owain ap Cadwgan o Bowys, cyn i Owain orfod ei rhoi yn ôl i’w gŵr. Ar farw Gerallt, trefnodd ei meibion iddi briodi Steffan, cwnstabl castell Aberteifi, ac mae’n debyg iddi briodi pumed gŵr.

“Dw i’n teimlo ei bod hi wedi dioddef serial sexual abuse gan y Normaniaid,” meddai Elin Jones. “Roedd hi’n cael ei defnyddio i bridio tywysogion oddi wrthi.

“Roedd Nest yn perthyn i gyfnod pan oedd goresgyniad Cymru heb ei gyflawni. Roedd y Normaniaid, fel y Rhufeiniaid o’u blaen, wedi gweld yn glir mai ffordd i ennill pobol draw atyn nhw ymhlith y bobol roedden nhw am eu goresgyn oedd magu arweinwyr oedd yn hanner Norman ac yn hanner Cymreig. Dyna a ddigwyddodd yn achos Nest.

“Roedd hi wedi cael ei defnyddio gan y brenin, gan ei ffrindiau a’u dilynwyr. Mae yna sôn amdani fel ‘Helen Cymru’ a’i bod hi’n hudo dynion – mae hynny’n gwneud cam gyda merch a gafodd ei chipio’n blentyn gan ei gelynion a’i defnyddio’n rhywiol ganddyn nhw. Dyna fel dw i’n gweld Nest.”

Haneswyr y cyfnod yn “casáu menywod”

Roedd Nest yn fam-gu i Gerallt Gymro, yr hanesydd canoloesol. “Mae e yn ymfalchïo yn ei linach, ac mae e’n portreadu ei fam-gu fel rhyw fath o demtasiwn i ddynion,” meddai Elin Jones. “Ond doedd hi ddim wedi cael unrhyw gyfle!

“Mae dynion ac eglwyswyr yng nghyfnod yr Oesoedd Canol yn adrodd hanes ar adeg pan oedden nhw yn llythrennol yn casáu menywod.”

Ymhlith y llyfrau sydd wedi eu sgrifennu am Nest mae llyfr o’r enw Princess Nest of Wales: Seductress of the English gan Kari Maund.

“Os ydych chi mo’yn, gallwch ystyried ei bod hi’n ‘seductress of the English’ neu fe allwch chi edrych arni fel ‘a victim of history’,” meddai’r hanesydd.

“Mae’n eitha’ posib fy mod i’n cael fy nylanwadu gan fy naliadau ffeministaidd fy hunan, ond dw i’n dweud drwy’r amser y dylech chi edrych ar hanes gyda llygaid newydd.”

Gwasg Carreg Gwalch sy’n cyhoeddi Hanes yn y Tir gan Elin Jones, a’r pris yw £16.50 (clawr caled). Rhagor am y llyfr yn Golwg, rhifyn Tachwedd 18 2021.