Llandrindod ym Mhowys yw’r lle hapusaf i fyw yng Nghymru a’r pumed hapusaf yn y Deyrnas Unedig, yn ôl arolwg blynyddol.

Gofynnodd yr arolwg, sydd bellach yn ei 10fed flwyddyn, i fwy na 21,000 o bobol ledled gwledydd Prydain sut maen nhw’n teimlo am wahanol agweddau ar ble maen nhw’n byw.

Ymhlith y rhinweddau i fesur hapusrwydd mae cyfeillgarwch ac ysbryd cymunedol, mannau gwyrdd, cyfleoedd yn lleol i ddatblygu sgiliau a chyfleusterau megis ysgolion, bwytai, siopau a chyfleusterau chwaraeon.

Trefynwy yn Sir Fynwy yw’r ail le hapusaf i fyw yng Nghymru, a’r seithfed lle hapusaf yn y Deyrnas Unedig, tra bod Ynys Môn yn drydydd yng Nghymru ac yn nawfed yn y Deyrnas Unedig.

Er mai Llandudno yw’r pedwerydd lle hapusaf i fyw yng Nghymru, mae dipyn o ostyngiad yng nghyd-destun y Deyrnas Unedig, gyda’r dref yn 58fed.

Yn yr un modd, mae Pen-y-bont ar Ogwr yn bumed yng Nghymru ac yn 62ain yn y Deyrnas Unedig, tra bod Caerdydd yn chweched yng Nghymru ac yn 82fed yn y Deyrnas Unedig.

Mae gan gefnogwyr pêl-droed Wrecsam lot i fod yn hapus amdano ers i Ryan Reynolds a Rob McElhenney brynu’r clwb, a’r dref yw’r seithfed lle hapusaf i fyw yng Nghymru, a’r 99ain ym Mhrydain.

Abertawe yw’r wythfed lle hapusaf i fyw yng Nghymru, a’r 122ain ym Mhrydain.

Mae yno dipyn o ostyngiad eto yng nghyd-destun y Deyrnas Unedig, gyda Chasnewydd yn nawfed yng Nghymru, ond yn 203ydd yn y Deyrnas Unedig.

Yn yr un modd, mae Caerffili yn 10fed yng Nghymru ac yn 206ed yn y Deyrnas Unedig.

Dyma’r 10 lle hapusaf i fyw yng Nghymru (a’u safle ar restr y Deyrnas Unedig mewn cromfachau): 

1. Llandrindod (5)

2. Mynwy (7)

3. Ynys Môn (9)

4. Llandudno (58)

5. Pen-y-bont ar Ogwr (62)

6. Caerdydd (82)

7. Wrecsam (99)

8. Abertawe (122)

9. Dinas Casnewydd (203)

10. Caerffili (206)