Fe fydd troseddwyr sy’n lladd gweithwyr y gwasanaethau brys yng Nghymru a Lloegr yn cael dedfryd awtomatig o garchar am oes, mae’r Llywodraeth wedi cyhoeddi.

Daw’r newid yn y gyfraith yn dilyn ymgyrch gan Lissie Harper ar ôl i’w gwr, y plismon Andrew Harper, gael ei ladd tra roedd ar ddyletswydd ac wedi’i alw i fyrgleriaeth yn hwyr gyda’r nos.

Dywedodd Lissie Harper, 30, bod y dedfrydau a gafodd y tri pherson ifanc oedd wedi lladd ei gwr yn “warthus”.

Mae disgwyl i Gyfraith Harper ddod i rym yn gynnar yn y flwyddyn newydd. Fe fydd yn cael ei gyflwyno fel gwelliant i Fil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd gan olygu y bydd yn debygol o gael Cysyniad Brenhinol a dod yn gyfraith y flwyddyn nesaf.

“Mae wedi bod yn siwrne hir a lot o waith caled,” meddai Lissie Harper. “Dw i’n gwybod y byddai Andrew yn falch o weld Cyfraith Harper yn cyrraedd y garreg filltir bwysig yma.”

Bu farw’r cwnstabl Andrew Harper, 28, o’i anafiadau ar ôl cael ei ddal mewn strap oedd ynghlwm wrth gefn car, a chafodd ei lusgo i lawr y ffordd wrth i’r tri ffoi o’r lleoliad yn Sulhamstead, Berkshire ar 15 Awst 2019.

Cafodd Henry Long, 19, ei ddedfrydu i 16 mlynedd o garchar, a Jessie Cole ac Albert Bowers, y ddau yn 18 oed, eu carcharu am 13 mlynedd am ddynladdiad Andrew Harper, oedd yn blismon gyda Heddlu Dyffryn Tafwys.

Cafwyd y tri yn ddieuog o lofruddiaeth gan y rheithgor yn yr Old Bailey.

Roedd y dedfrydau a gafodd y tri wedi annog Lissie Harper i lobio’r Llywodraeth er mwyn diogelu gweithwyr y gwasanaethau brys ar y rheng flaen yn well.

Mae’r Ysgrifennydd Cyfiawnder Dominic Raab wedi talu teyrnged “i ymgyrch anhygoel Lissie Harper.”