Mae banc Barclays wedi cyhoeddi y byddan nhw’n cau chwech o’u canghennau yng Nghymru yn y flwyddyn newydd.
Daw hyn yn dilyn gostyngiad sylweddol yn nifer y bobol sy’n defnyddio eu gwasanaethau wyneb yn wyneb dros y blynyddoedd diwethaf.
Mae disgwyl i’r canghennau yng Nghaernarfon, Porthmadog, Gorseinon, Port Talbot, Mynwy a Chas-gwent gau fis Chwefror.
Yng Nghaernarfon, er enghraifft, dywed y banc fod 81% o’u cwsmeriaid wedi troi at fancio ar-lein neu dros y ffôn.
A dim ond 98 o bobol sydd bellach yn defnyddio’u gwasanaethau dros y cownter yng Nghaernarfon, yn ôl Barclays.
Fodd bynnag, bydd cwsmeriaid yn ardal Caernarfon sydd am barhau i ddefnyddio gwasanaethau yn y gangen yn cael eu gorfodi i newid banc neu i deithio naw milltir i’r gangen Barclays agosaf ym Mangor, neu 14 milltir i Langefni.
“Hanfodol”
Mewn llythyr at Brif Swyddog Gweithredol Barclays ddydd Gwener (19 Tachwedd), dywedodd Hywel Williams, Aelod Seneddol Arfon, fod y canghennau megis un Caernarfon yn darparu “gwasanaethau bancio hanfodol i’r cymunedau a’r busnesau lleol”.
“Ar ôl darllen esboniad eich banc gyda diddordeb mawr, rwy’n derbyn bod y ffordd y mae pobol yn bancio yn newid,” meddai yn y llythyr.
“Fodd bynnag, byddwn yn dadlau er bod tueddiadau cyn-bandemig yn glir, mae’r pandemig hefyd wedi tanlinellu pwysigrwydd gwasanaethau lleol.
“Mae diffyg mynediad band eang mewn ardaloedd gwledig yn parhau i’w gwneud yn anodd i gymunedau gwledig ddefnyddio gwasanaethau bancio amgen.”
Mae Barclays wedi dweud y byddan nhw’n cynnal sesiynau paned a sgwrs i bobol sydd eisiau gwybod mwy am wasanaethau bancio ar-lein