Mae Aelod Seneddol Arfon, Hywel Williams, wedi annog banc Barclays i ailystyried cynlluniau i gau cangen Caernarfon yn fuan y flwyddyn nesaf.

Mewn llythyr at Brif Swyddog Gweithredol Barclays, dywedodd Hywel Williams fod y gangen wedi bod yn “ganolbwynt i’r stryd fawr leol” sy’n darparu “gwasanaethau bancio hanfodol i’r cymunedau a’r busnesau lleol”.

Ychwanegodd y byddai cau’r gangen yn effeithio’n arbennig ar bobol hŷn.

Bydd cwsmeriaid yn ardal Caernarfon sydd am barhau i ddefnyddio gwasanaethau yn y gangen yn cael eu gorfodi i newid banc neu i deithio naw milltir i’r gangen Barclays agosaf ym Mangor, neu 14 milltir i Langefni os bydd y cynlluniau yn cael eu gwireddu.

Mae Barclays wedi cydnabod bod 98 o gwsmeriaid ar hyn o bryd yn bancio gyda changen Caernarfon yn unig.

“Ergyd ddinistriol i gymunedau lleol”

Dywedodd Hywel Williams yn ei lythyr:

“Mae cangen Barclays yng Nghaernarfon wedi bod yn ganolbwynt ar y stryd fawr leol ers amser maith, gan ddarparu gwasanaethau bancio hanfodol i’r gymuned a busnesau lleol.

“Felly, mae’r penderfyniad gan eich banc i gau’r gangen leol yn peri pryder mawr i mi gan y bydd hyn yn cau nifer o bobl allan, yn enwedig yr henoed a chymunedau gwledig, ac yn tanseilio’r economi leol.

“Ar ôl darllen esboniad eich banc gyda diddordeb mawr, rwy’n derbyn bod y ffordd y mae pobl yn bancio yn newid. Fodd bynnag, byddwn yn dadlau er bod tueddiadau cyn-bandemig yn glir, mae’r pandemig hefyd wedi tanlinellu pwysigrwydd gwasanaethau lleol.

“Mae diffyg mynediad band eang mewn ardaloedd gwledig yn parhau i’w gwneud yn anodd i gymunedau gwledig ddefnyddio gwasanaethau bancio amgen.

“Fel rydych yn gwybod, mae naw deg wyth o gwsmeriaid yn bancio gyda changen Caernarfon yn unig ac mae rhwydwaith o gwsmeriaid ehangach gan gynnwys busnesau lleol.

“Gyda chau’r gangen hon, bydd y cwsmeriaid hyn naill ai’n cael eu gorfodi i newid banc neu i deithio 9 milltir i’r gangen Barclays agosaf ym Mangor, neu 14 milltir i Langefni, i gael mynediad at wasanaethau bancio sylfaenol.

“Rwy’n mawr obeithio felly y byddwch yn ailystyried yr ergyd ddinistriol hon i gymunedau lleol ac yn sicrhau bod cangen Barclays yng Nghaernarfon yn parhau ar agor.”