Mae Cyngor Sir Gaerfyrddin yn anelu at ailgylchu o 70% o wastraff y sir erbyn 2025 a’r holl wastraff erbyn 2050.

Daw hyn wedi i Gabinet y Cyngor gytuno ar strategaeth wastraff fydd yn cefnogi trigolion i ailgylchu mwy heb orfod gadael eu cartrefi.

Bydd cyfres o newidiadau’n cael eu rhoi ar waith dros y tair blynedd nesaf gyda’r bwriad o gynyddu cyfradd ailgylchu’r sir a lleihau ei hôl troed carbon.

Ar hyn o bryd, mae’r Cyngor yn darparu casgliad gwastraff bwyd wythnosol, ynghyd â chasgliad bob pythefnos o fagiau ailgylchu glas a bagiau du – fodd bynnag, ar gyfartaledd, gellir ailgylchu bron i hanner (46%) y cynnwys a geir yn y bagiau du.

Gan ddechrau yng ngwanwyn 2022, bydd gwasanaeth casglu ar gael bob pythefnos i’r sawl sydd ei angen.

Casglu gwydr o dŷ i dŷ

Yn hydref 2022, bydd y Cyngor yn dechrau casglu nifer diderfyn o fagiau ailgylchu glas, gan gynnwys papur, cardbord, plastig a chaniau yn ogystal â chasgliadau gwastraff bwyd wythnosol.

Hefyd o hydref 2022, bydd criwiau’n dechrau casglu gwydr o dŷ i dŷ bob tair wythnos.

Bydd newidiadau pellach yn cael eu cyflwyno yn 2024, gyda’r Cyngor yn adnewyddu lorïau biniau i fod yn gerbydau trydan ecogyfeillgar.

Erbyn hynny bydd y Cyngor yn casglu gwydr, papur, cardbord, caniau a phlastig, tecstilau, batris wedi’u defnyddio ac offer bach ar gyfer y tŷ o garreg drws, gydag offer yn cael ei ddarparu er mwyn storio a chasglu’r eitemau ar wahân.

“Gwahaniaeth mawr”

“Rydym am ddiolch i’n trigolion am eu hymdrechion i leihau, ailddefnyddio ac ailgylchu – mae ymdrechion pawb ar y cyd yn gwneud gwahaniaeth mawr i’r cyfanswm y mae Sir Gaerfyrddin yn ailgylchu,” meddai’r Cynghorydd Hazel Evans, sef yr Aelod Cabinet dros yr Amgylchedd.

“Fodd bynnag, mae mwy y gallwn ei wneud a dyna pam rydym wedi cytuno ar newidiadau a fydd yn cefnogi trigolion i ailgylchu hyd yn oed mwy.

“Roedd dros 4,000 o bobl wedi cymryd rhan mewn ymgynghoriad ar ein strategaeth wastraff ar gyfer y dyfodol, a dywedodd y rhan fwyaf o bobl eu bod am ailgylchu mwy.

“Rydym wedi gwrando ar yr adborth hwnnw, ac o’r flwyddyn nesaf byddwn yn darparu casgliadau ar wahân ar gyfer cewynnau a gwydr fel bod llai yn cael ei roi yn y bagiau du, ac o 2024 byddwn yn cyflwyno mwy o newidiadau er mwyn i ni weithio tuag at sicrhau cyfradd ailgylchu o 70 y cant erbyn 2025 a dim gwastraff erbyn 2050.”

“Lleihau, ailddefnyddio ac ailgylchu”

Dywedodd y Cynghorydd Ann Davies, yr Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd, y bydd y newidiadau yn cefnogi targed yr awdurdod o fod yn garbon sero-net.

“Fel awdurdod rydym wedi ymrwymo i daclo newid hinsawdd a lleihau a gwrthbwyso allyriadau carbon gyda’r nod o ddod yn garbon sero-net erbyn 2030,” meddai.

“Drwy ein hymgyrch Prosiect Zero Sir Gâr rydym yn cael pawb i gymryd rhan i’n helpu i gyrraedd y targed hwnnw ac mae ailgylchu yn rhan enfawr o’r cynllun hwnnw.

“Gorau oll po fwyaf y gallwn leihau, ailddefnyddio ac ailgylchu.

“Rydym hefyd yn gwneud newidiadau i sicrhau bod ein gweithrediadau yn gadael llai o ôl troed carbon – er enghraifft rydym wedi ad-drefnu ein llwybrau er mwyn i’n lorïau deithio llai o filltiroedd, ac rydym yn treialu lorïau trydan i gyflawni’r casgliadau yn y dyfodol.

“Mae’r rhain, a mesurau eraill, wedi ein helpu i leihau allyriadau carbon o’n fflyd o 19% ers 2012/13, ond rydym yn gwybod bod mwy o waith i’w wneud.”