Mae elusen anifeiliaid yr RSPCA wedi erfyn ar griw rhaglen I’m a Celebrity… i beidio defnyddio anifeiliaid byw wrth ffilmio’r gyfres.

Bydd y gyfres yn dychwelyd i ogledd Cymru eleni, gan eu bod nhw’n methu â ffilmio yn Awstralia oherwydd pandemig Covid-19.

Ond mae’r elusen yn bryderus ynglŷn â lles anifeiliaid, yn enwedig y rhai yn y ‘Bushtucker Trials’ sy’n cael eu cynnal yn y sioe.

Mae’r defnydd o anifeiliaid byw wedi bod yn nodwedd gyson o’r sioe ers iddi ddechrau darlledu yn 2002.

Mae triniaeth anifeiliaid sydd gydag asgwrn cefn yn dod dan y Ddeddf Llesiant Anifeiliaid 2006 yng Nghymru,

Ond nid felly anifeiliaid di-asgwrn cefn, sydd ddim yn dod dan y Ddeddf Llesiant, ac mae’r RSPCA yn dweud fod y rhain mewn risg cyson o gael eu gwasgu a’u lladd yn ystod y rhaglen.

Bydd y gyfres newydd yn dechrau nos Sul, 21 Tachwedd.

Miloedd wedi cwyno

Y llynedd fe wnaeth dros 11,800 o gefnogwyr yr RSPCA ysgrifennu at y rheoleiddiwr Ofcom yn cwyno am y ffordd roedd anifeiliaid yn cael eu defnyddio ar y rhaglen, gyda phryfed, madfallod, llygod a nadredd yn cael eu rhoi mewn sefyllfaoedd “trallodus ac amhriodol.”

“Yn anffodus, rydyn ni’n gwybod y byddwn yn debygol o weld llawer o anifeiliaid byw ar ein sgriniau teledu dros yr wythnosau nesaf yn cael eu rhoi mewn sefyllfaoedd a allai beryglu eu lles,” meddai Prif Weithredwr yr RSPCA, Chris Sherwood.

“Rydyn ni wedi annog y cwmni cynhyrchu y tu ôl i I’m a Celebrity i feddwl eto – a difyrru’r cyhoedd, sy’n hoff o anifeiliaid yn y Deyrnas Unedig, heb droi at y Bushtucker Trials sy’n niweidiol i anifeiliaid.

“Y llynedd yng ngogledd Cymru, gwelon ni anifeiliaid yn cael eu rhoi mewn sefyllfaoedd pryderus iawn, gyda phryfed mewn perygl o gael eu gwasgu a’u lladd.

“Ar yr ochr gadarnhaol, fe ysgrifennodd dros 11,800 o’n cefnogwyr at Ofcom i leisio’u barn – ac rydyn ni’n rhagweld ymateb tebyg eleni hefyd.

“Rydyn ni’n credu ei bod hi’n fwy na phosib cynhyrchu’r rhaglen hon heb gyfaddawdu ar les anifeiliaid, felly rydyn ni’n annog pawb sy’n gysylltiedig gydag I’m a Celebrity i ail-feddwl a diweddaru’r sioe hon ar gyfer Deyrnas Unedig fodern.”

Mae Chris Sherwood wedi ysgrifennu at y cwmni sy’n cynhyrchu’r sioe, Lifted Entertainment, yn eu hannog i beidio â defnyddio anifeiliaid byw yn y dyfodol, a derbyn cynnig yr RSPCA i greu rhaglen sy’n cyd-fynd â gwerthoedd cyhoedd y Deyrnas Unedig.

Mae golwg360 hefyd wedi cysylltu ag ITV i gael eu hymateb nhw i’r cwynion am gam-drin anifeiliaid.