Mae’r niferoedd sy’n ymweld â Chlwb Golff Abergele wedi cynyddu dros y flwyddyn ddiwethaf ar ôl i raglen I’m a Celebrity gael ei ffilmio yn yr ardal.
Cafodd y gyfres gan ITV ei ffilmio yng Nghastell Gwrych y llynedd, a bydd yn dychwelyd am flwyddyn arall, gan ddechrau dros y penwythnos.
Mae’r castell i’w weld yn glir o sawl man ar y cwrs golff yn Abergele, felly bydd y cwrs ond ar agor i aelodau tan ddiwedd y rhaglen yng nghanol mis Rhagfyr.
Roedd Gŵyl Golff Gogledd Cymru yn cael ei chynnal ar y cwrs ym mis Hydref eleni, gyda ‘Bushtucker Trials,’ sy’n nodwedd o’r gyfres, yn digwydd yn rhan o’r ŵyl honno.
Y gyfres yn ‘hwb mawr i’r ardal’
Fe eglurodd Megan Harris, Swyddog Marchnata a Chyfathrebu Clwb Golff Abergele, y byddai’r cwrs ar gau i ymwelwyr o’r penwythnos hwn ymlaen.
“Gall ein haelodau chwarae unrhyw bryd maen nhw eisiau, ond bydd y cwrs ar gau i ymwelwyr i gadw popeth yn ddiogel,” meddai.
“Mae ein haelodau yn edrych ymlaen yn arw at I’m a Celebrity yn dychwelyd i Gymru ac Abergele.
“Maen nhw wrth eu boddau achos mae’n hwb mawr i’r ardal ac wedi ein rhoi ni ar y map.
“Mae gennyn ni olygfeydd godidog o’r castell ar draws y cwrs.
“Yn sicr, mae yna gynnydd wedi bod yn niferoedd ymwelwyr flwyddyn yma, gydag ymwelwyr eisiau chwarae ar gwrs lle maen nhw’n gallu gweld Castell Gwrych mor glir.
“Mae ITV wedi bod yn gefnogol iawn hefyd – fe wnaethon nhw gefnogi digwyddiad codi arian yn ddiweddar, lle wnaeth dau o’n haelodau, Dave a Paul, chwarae 72 twll i godi arian i elusen.”
Mae’r rhaglen, sy’n cael ei chyflwyno gan Ant a Dec, yn dychwelyd am naw nos Sul (21 Tachwedd) ar ITV.
Bydd nifer o wynebau cyfarwydd yn mynd i mewn i Gastell Gwrych eleni, gan gynnwys David Ginola, Arlene Phillips a Richard Madeley.
Bu’r gyfres yn cael ei chynnal yn Awstralia am flynyddoedd, cyn adleoli i ogledd Cymru oherwydd covid.