Mae S4C wedi cyhoeddi mai Siân Doyle fydd yn olynu Owen Evans fel Prif Weithredwr y sianel.

Dros yr haf, cyhoeddodd Owen Evans ei fod am adael y sianel ar ôl pedair blynedd er mwyn dechrau ei rôl fel prif arolygydd Estyn yn y flwyddyn newydd.

Mae Siân Doyle yn gyn reolwr-gyfarwyddwr cwmni telegyfathrebu TalkTalk, a chyn hynny bu’n gweithio fel Cyfarwyddwr Manwerthu i EE, lle bu’n gyfrifol am arwain a datblygu tîm o 3,500 o gydweithwyr yn y Deyrnas Unedig.

Bu hefyd yn Uwch Is-Lywydd Cwmni Comcast Cable yn Philadelphia.

“Edrych ymlaen”

Dywedodd Siân Doyle ei bod hi’n “edrych ymlaen” at ddechrau gweithio gyda thîm S4C.

“Trwy fy ngyrfa rwyf wedi cael y fraint o weithio gyda phobl a chwmnïau arbennig a dwi wedi dysgu gymaint ag elwa o brofiadau gwerthfawr,” meddai Siân Doyle.

“Mae fy angerdd dros fy nghydweithwyr ac anghenion defnyddwyr wedi bod yn rhan annatod o fy mhrofiad dros y blynyddoedd.

“Nawr fy mod wedi dychwelyd i Gymru rwy’n edrych ’mlaen i weithio gyda’r tîm yn S4C ac arwain y sefydliad wrth iddo ymateb yn egnïol i’r newidiadau yn y tirwedd cyfryngau a sicrhau ei fod yn gwneud y gorau o bob cyfle’n chwim.

“Rwy’n ymuno gydag S4C ar drothwy’r esblygiad hwn ac mi fyddaf yn gweithio i ymbweru’r dalent sydd gyda ni yng Nghymru i arloesi ymhellach yn y byd digidol cyffrous hwn”.

“Angen mentro”

Dywedodd Rhodri Williams, Cadeirydd Bwrdd Unedol Cysgodol S4C, eu bod nhw’n “falch iawn i allu penodi arweinydd gyda chyfoeth o brofiad mewn llunio a gweithredu strategaethau uchelgeisiol a llwyddiannus ac o ddeall a bodloni anghenion defnyddwyr”.

“Mae angen mentro er mwyn sicrhau bod S4C yn atgyfnerthu ei hun fel darparwr cynnwys creadigol a beiddgar y mae defnyddwyr am ymwneud ag e’ ar draws amrywiaeth o lwyfannau,” meddai Rhodri Williams.

“Mae’r Bwrdd yn ymddiried yn gyfan gwbl yng ngallu Siân i fynd i’r afael â hyn ac i fanteisio ar y cyfleoedd y mae’r byd digidol yn creu.

“Bydd profiad helaeth Siân ym myd telegyfathrebu a manwerthu yn y Deyrnas Gyfunol, Canada a’r Unol Daleithiau yn ogystal, wrth gwrs, â’i chariad at y Gymraeg yn gaffaeliad mawr i S4C yn y blynyddoedd i ddod”.

Bydd Siân Doyle yn cychwyn fel Prif Weithredwr ar 1 Ionawr 2022.

Adroddiad blynyddol S4C yn un “cadarnhaol” yn ôl Cadeirydd y sianel

Huw Bebb

“Dw i’n credu ein bod ni wedi cael ein siomi ar yr ochr orau,” meddai Rhodri Williams wrth golwg360
Owen Evans

Prif Weithredwr S4C i adael y sianel

Yn ôl adroddiadau, bydd Owen Evans yn ymuno ag Estyn fel Prif Arolygwr
Owen Evans

Cyhoeddi mai Owen Evans fydd prif arolygydd newydd Estyn

Cafodd enw Owen Evans ei argymell i’r Frenhines gan Brif Weinidog Cymru Mark Drakeford, yn dilyn proses recriwtio gan Lywodraeth Cymru