Bydd arddangosfa newydd yn cael ei lansio ym Mangor er mwyn dathlu 60 mlynedd ers cyhoeddi nofel “eiconig” Caradog Prichard, Un Nos Ola Leuad.
Fe fydd gosodwaith ‘Llygad y Lleuad’ gan yr artist Jo Lawrence, mewn cydweithrediad ag Adran Cerddoriaeth, Drama a Pherfformio Prifysgol Bangor, yn cael ei lansio ym mhrif awtriwm Pontio ar 5 Rhagfyr.
Fel rhan o’r lansiad, bydd ffilmiau animeiddig gan Jo Lawrence, sy’n gweithio yn Llundain, yn cael eu dangos.
Mae’r ffilmiau’r cynnwys sgôr gerddorol wreiddiol gan Tomasz Edwards, sy’n fyfyriwr ôl-radd ym Mhrifysgol Bangor, wedi’i pherfformio’n fyw gan Ensemble Cerddoriaeth Newydd Bangor.
Dangosa’r gwaith fyd wedi’i bolareiddio, byd lle mae’r mynyddoedd yn ymrannu i ddatgelu Bethesda, sy’n “lle o oleuni a chysgodion, angylion a gwyrthiau”.
Mae’r digwyddiad yn rhan o ddathliadau canmlwyddiant Adran Cerddoriaeth Brifysgol Bangor hefyd.
Yr artistiaid
Mae Jo Lawrence yn artist a gwneuthurwr ffilm sy’n cyfuno amryw o gyfryngau megis collage, ffilm, pixileiddio, pypedwaith ac animeiddio.
Mae ei ffilmiau wedi cael eu dangos mewn galerïau ac mewn gwyliau ffilm rhyngwladol, ac wedi cael eu dangos am gyfnodau yn y V&A yn Llundain, y National Media Museum yn Bradford, a’r Four Corners Gallery yn Llundain.
Yn ogystal, mae hi wedi cael ei chomisiynu i greu gwaith gan Channel 4, Tate Britain ac Animate Projects.
Graddiodd Tomasz Edwards o Brifysgol Bangor yn ddiweddar, ond dechreuodd ei yrfa gerddorol yn ei arddegau wrth berfformio ar y stryd ym Marchnad Camden, Llundain.
Wrth astudio ym Mangor, bu’n cyflwyno gweithiau cerddorol ar gyfer e-lyfrau, gemau fideo a ffilmiau.
“Gwledd weledol a chlywedol”
Dywedodd Manon Awst, Cydlynydd Creadigol Gofodau Cyhoeddus Celfyddydau Pontio, fod prosiect Llygad y Lleuad yn “wledd weledol a chlywedol”.
“Llygad y Lleuad fydd y prosiect cyntaf ym mhrif atriwm Pontio ers i ni ail-agor, ac mi fydd sicr yn wledd weledol a chlywedol!” meddai Manon Awst.
“Un Nos Ola Leuad yw un o fy hoff nofelau, ac mae wedi bod yn bleser llwyr datblygu’r prosiect efo Jo a Tomasz, a chydweithio’n agos gyda’r Adran Gerddoriaeth, Drama a Pherfformio.
“Dwi’n gobeithio fydd mwy o gydweithio creadigol tebyg yn digwydd yn y dyfodol agos!”