Mae ITV wedi cyhoeddi’r deg cystadleuydd fydd yn ymddangos ar raglen ‘I’m a Celebrity’ eleni.
Bydd y sêr yn dychwelyd i Gastell Gwrych ger Abergele am yr ail flwyddyn yn olynol, ar ôl i gyfyngiadau teithio’r pandemig rwystro’r cynhyrchwyr rhag cynnal y rhaglen yn y jyngl yn Awstralia.
Roedd Prif Weinidog Awstralia, Scott Morrison, wedi dweud ei bod hi’n rhy fuan i allu sicrhau hawliau ffilmio eto eleni.
Does dim Cymro wedi enwi ar y rhestr eleni, ond ymysg yr enwau mwyaf cyfarwydd mae’r cyflwynydd teledu Richard Madeley, y coreograffydd Arlene Phillips, a’r cyn bêl-droediwr David Ginola. Yn 78 oed, Arlene Phillips yw’r cystadleuydd hynaf i gymryd rhan.
Ymhlith ye enwau eraill mae’r cyflwynydd teledu Louise Minchin, y gantores Frankie Bridge, actor Emmerdale Danny Miller, y deifiwr Olympaidd Matty Lee, DJ Radio 1Xtra Snoochie Shy, y cynhyrchydd cerddoriaeth Naughty Boy a’r athletwraig Paralympaidd Kadeena Cox.
Fe fyddan nhw’n wynebu nifer o dreialon, sydd fel arfer yn ymwneud â bwyd neu anifeiliaid gwyllt, gydag un o’r deg yn ennill teitl Brenin neu Frenhines y Castell.
Oherwydd lleoliad gwahanol y gyfres dros y ddwy flynedd diwethaf, mae’r treialon hynny wedi adlewyrchu nodweddion Cymreig yn hytrach nag Awstralia, gyda chymeriadau cyfarwydd fel Kiosk Kev yn newid i Kiosk Cledwyn.
Yr awdur a chyflwynydd, Giovanna Fletcher, gafodd ei choroni yn Frenhines y Castell am y tro cyntaf y llynedd, gyda phennod gyntaf y gyfres yn denu 14.3 miliwn o wylwyr – y mwyaf yn hanes y rhaglen.
Y Deg Seleb:
- Arlene Phillips, coreograffydd
- Danny Miller, actor a seren cyfres sebon Emmerdale
- David Ginola, cyn bêl-droediwr
- Frankie Bridge, cantores
- Kadeena Cox, athletwraig ac enillydd medal aur Paralympaidd
- Louise Minchin, darlledwr a chyn-gyflwynydd BBC Breakfast
- Matty Lee, deifiwr ac enillydd medal aur Olympaidd
- Naughty Boy, cynhyrchydd cerddoriaeth
- Richard Madeley, cyflwynydd teledu a newyddiadurwr
- Snoochie Shy, DJ gorsaf Radio 1Xtra