Mae’r Eisteddfod Genedlaethol wedi cyhoeddi y bydd adolygiad annibynnol o’u holl gystadlaethau yn cael ei chynnal yn dilyn saib y pandemig.

Bydd hynny’n cynnwys y cystadlaethau a’r defodau sy’n digwydd ar lwyfan, yn ogystal â’r cystadlaethau cyfansoddi oddi ar y llwyfan.

Byddan nhw’n penodi ymgynghorydd er mwyn arwain yr adolygiad, gan archwilio’r cynnwys presennol ac ystyried a ddylid gwneud unrhyw newidiadau er mwyn sicrhau bod y cystadlaethau’n parhau’n gyfredol.

Fel cam cyntaf, bydd ymgynghoriad yn digwydd rhwng mis Rhagfyr a mis Mawrth, a fydd yn ceisio barn cystadleuwyr, aelodau pwyllgor, staff yr Eisteddfod a chynulleidfaoedd, ac yn dilyn hynny, bydd yr ymgynghorydd yn llunio argymhellion i drefnwyr yr Ŵyl.

Mae gofyn i’r ymgeiswyr am swydd yr ymgynghorydd gyflwyno cais erbyn dydd Llun, 22 Tachwedd.

‘Byd newydd’

Mae Trefnydd a Chyfarwyddwr Artistig yr Eisteddfod, Elen Elis, wedi esbonio pam y byddan nhw’n cynnal yr ymchwiliad.

“Cawson ni gyfarfod efo’r Pwyllgor Diwylliannol i edrych yn ôl ar y cystadlu dros y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf,” meddai wrth raglen Dros Frecwast ar BBC Radio Cymru.

“Yn rhan o’r sgwrs roedd pawb yn craffu dros bopeth, a’n meddwl ei bod hi wedi bod yn gyfnod gwahanol.

“Mae’n fyd newydd bellach i ni gyd, a wnaethon nhw benderfynu ei bod hi’n amserol i gael adolygiad annibynnol, fel bod croestoriad o bobol yn rhan o’r sgyrsiau hyn.”

Annibynnol

Fe ofynnodd y Pwyllgor Diwylliannol i’r Bwrdd Rheoli lunio argymhellion, a byddan nhw’n canfod ymgynghorydd annibynnol er mwyn gwneud hynny.

“[Rydyn ni’n gofyn] am rywun annibynnol sy’n drefnus, sy’n dda am gyfathrebu, a’n ddidwyll,” meddai Elen Elis ar Dros Frecwast.

“Byddai’n rhywun sy’n gallu dod â’r holl wybodaeth at ei gilydd er mwyn sicrhau dyfodol y cystadlu, a’i fod yn greiddiol i waith yr Eisteddfod yn hir i’r dyfodol.”