Mae ffilm newydd Ryan Reynolds ar Netlix, Red Notice, ar gael ar y gwasanaeth yn y Gymraeg.

Cyd-berchennog clwb pêl-droed Wrecsam sy’n chwarae un o brif rannau’r ffilm gomedi.

Mae’n chwarae rhan lleidr gweithiau celf, Nolan Booth, sy’n cydweithio ag asiant FBI i ddal y gwir droseddwr.

Mae Netflix yn hysbysebu bod modd gwylio’r ffilm gydag isdeitlau Cymraeg, Pwyleg, Ffrangeg, Saesneg neu Arabeg, ac mae amryw o gefnogwyr Wrecsam wedi trydar eu canmoliaeth.