Mae’r rhan sydd gan ffuglen i’w chwarae wrth drosglwyddo hanes yn “arbennig o bwysig”, yn ôl yr awdur Angharad Tomos.

Yn aml, mae hanesion wedi’u cyfleu ar ffurf ffuglen hanesyddol, ffilmiau, rhaglenni teledu, a chaneuon hyd yn oed, wrth wraidd y ffordd mae pobol yn meddwl am eu hunaniaeth genedlaethol a phersonol.

Gan fod hanes o safbwynt Prydeinig wedi treiddio drwy’r drefn addysg yng Nghymru, mae eisiau i awduron adrodd eu stori nhw, a stori Cymru, drwy weithiau ffuglennol, meddai Angharad Tomos wrth golwg360.

Y penwythnos nesaf, bydd Angharad Tomos yn un o gyfranwyr cynhadledd ‘Dychmygu Hanes: Cymru mewn ffuglen a ffaith’.

Bwriad y gynhadledd yw archwilio’r ffyrdd mae ffuglen yn bodoli mewn tensiwn cymhleth, ac weithiau dadleuol, gyda hanesyddiaethau prif ffrwd.

Bydd y sesiwn gydag Angharad Tomos, Y Castell Siwgr: Cymru a chaethwasiaeth trawsiwerydd, yn trafod y nofel, y cysylltiadau rhwng Castell y Penrhyn a’r planhigfeydd yn Jamaica, a materion ehangach caethwasiaeth.

Wedi’i chynnal ar-lein gan Brifysgol De Cymru, bydd y gynhadledd hefyd yn cynnwys sesiwn ar Y Cymry yn Wcráin: Ffaith a Ffuglen, gan edrych ar hanes John Hughes o Ferthyr a’r ddinas a sefydlodd yn yr Wcráin ac a ysbrydolodd y gyfres deledu Hughesovka and the New Russia, a thrioleg Catrin Collier, The Tsar’s Dragon.

Fe fydd Panel Raymond Williams: Troi Hanes yn Ffuglen yn trafod gwaith y damcaniaethwr a’r nofelydd hanesyddol Raymond Williams yng nghwmni ei fywgraffydd, Rhian E. Jones, yr hanesydd a’r nofelydd yr Athro Dai Smith, a’r Athro Daniel Williams.

Bydd dangosiad hefyd o bennod o How Green Was My Valley (BBC, 1975-6), addasiad o nofel Richard Llewelyn a gafodd ei gosod yn Oes Fictoria, ynghyd â chyflwyniad gan yr actores Sue Jones Davies, a thrafodaeth gan yr hanesydd yr Athro Angela John.

Dau hanes a byd dwbl

Mae naratifau hanesyddol, yn aml rhai sy’n cael eu dysgu yn yr ysgol, yn ffurfio’r ffordd rydyn ni’n meddwl am genedl, ein cymunedau, ac ein hunain, a does yna ddim y fath beth â ‘hanes niwtral’, meddai Angharad Tomos.

Gall gweithiau ffuglennol hanesyddol ganiatáu i ni ail-ddychmygu’r naratifau hyn, llenwi’r bylchau a’r mannau mud yn yr hanes sydd wedi’i gofnodi, ac yn ôl Angharad Tomos mae ffuglen hanesyddol yn bwysig yn enwedig pan mae rhywun yn ifanc.

“Roeddwn i’n darllen nofelau Elizabeth Watkin Jones yn blentyn, a rhai T. Llew Jones, ond hwnna wnaeth ddechrau fy niddordeb i mewn hanes, ac wedyn Marion Eames yn ddiweddarach,” meddai Angharad Tomos.

“Pan ffilmwyd Y Stafell Ddirgel roedd hwnna’n dod â phersbectif ychwanegol, a’i wneud o’n gofiadwy.”

Fel rhan o’r gynhadledd, bydd Angharad Tomos yn dweud ei bod hi wedi cael dau fath o addysg – “hanes yn swyddogol fel pwnc yn yr ysgol, oedd trwy gyfrwng yr iaith Saesneg ac yn cymryd golwg Brydeinig, a’r hanes roeddwn i’n ei gael adre’ gan fy nheulu a thrwy gyfrwng caneuon fel rhai Dafydd Iwan”.

“Be oedd yn ddiddorol oedd bod y ddau yn hollol groes i’w gilydd,” eglura.

“Yr argraff wnaeth o wneud arna i oedd fy mod i’n byw mewn rhyw fath o fyd dwbl, er enghraifft roeddwn i’n astudio’r Ail Ryfel Byd am ddwy flynedd at Lefel O ac wedyn roedd o’n gwbl imperialaidd… doeddwn i ddim yn cael hanes Cymru o gwbl.

“Pan es i ymlaen i wneud Lefel A, roeddwn i’n gwneud y Tuduriaid, roedd hwnnw unwaith eto drwy sbectol Brydeinig.

“Yr effaith gafodd hynny arna i fel plentyn 16 oed oedd bod yna rywbeth cynhyrfus, neu danddaearol, rhywbeth peryg am hanes Cymraeg, mae o rhy beryg i gael ei grybwyll yn yr ysgol.

“Dyna sbardunodd fy niddordeb i mewn gwleidyddiaeth. Ar ôl clywed ‘Daw fe ddaw yr awr yn ôl i mi’ [gan Dafydd Iwan], roeddwn i’n holi fy rhieni beth sydd wedi digwydd, be’ oedd yr Ysgol Fomio, be’ ddigwyddodd yn Nhryweryn, pam bod Dafydd Iwan yn canu am Fietnam?

“Trwy’r caneuon, yn ogystal â’r llyfrau, roeddwn i’n ei gael o.”

‘Dim newid’

Pan aeth mab Angharad Tomos i’r ysgol, roedd hi’n meddwl y byddai pethau wedi newid o ran cynnwys hanes Cymru ar y cwricwlwm, ond does “dim” wedi newid, meddai.

“Dw i ddim yn meddwl ei fod o wedi newid dim, wedyn y nofelau dw i wedi’i sgwennu yn ogystal â’r Castell Siwgr, fe wnes i hanes y Beasleys a Paent, hanes yr arwisgo a Chymdeithas yr Iaith.

“Dw i wedi bod mewn ysgolion cynradd yn trafod y rheiny.

“Trwy ffuglen, trwy gyflwyno’r llyfrau, mae hi’n mynd yn ddadl ac yn drafodaeth yn yr ysgol. Mae plant wrth eu bodd yn trafod y materion yma.”

‘Pob hanes yn wleidyddol’

Mae Angharad Tomos o’r farn na all hanes fod yn niwtral, a bod “pob hanes yn wleidyddol”.

“Y ddadl dw i’n deimlo: mae’r safbwynt Prydeinig wedi treiddio trwy’r drefn addysg, ac wedyn mae isio i awduron roi eu stori nhw,” meddai.

“Wedyn, mae yna duedd yn fy ysgrifennu i, ond mae hwnna’n herio’r duedd. Does yna ddim hanes swyddogol, dw i’n anghytuno efo’r diffiniad yna.

“Fysa nhw’n dadlau mewn ysgolion am hanes diduedd, ond dydi o ddim, dyna’u dehongliad nhw o hanes.”

Fe fydd yr Athro Chris Evans, yr artist Audrey West a’r hanesydd a phennaeth treftadaeth Cyngor Hil Cymru, Dr Marian Gwyn, yn rhan o’r sesiwn ar Y Castell Siwgr, caethwasiaeth a chysylltiadau Cymru â chaethwasiaeth.

Bydd darlleniad o’r nofel gan Mirain Iwerydd yn rhan o’r sesiwn hefyd.

“Efo Castell Siwgr, chefais i erioed hanes cysylltiad Penrhyn a hanes chwarelwyr o gwbl yn yr ysgol, mae’n siŵr na gan Mam gefais i hwnna am ei bod hi’n dod o Fethesda,” meddai Angharad Tomos wedyn.

“Roedd yr hanes cenedlaetholgar yn guddiedig ac yn answyddogol, ond doedd hanes hil ddim yn twllu…. chefais i erioed wers ar hiliaeth. Doedd hwnna jyst ddim yn bodoli ar y radar o gwbl.

“Roeddwn i’n gwybod bod yna ryw gysylltiad, ond es i ddim mewn iddo fo nes gweld arddangosfa Manon Steffan Ros yn 2018, fe wnaeth yr arddangosfa yna gymaint o argraff arna i fe wnes i feddwl ‘mae’n rhaid i mi rannu’r stori yma’.

“Roedd hwnna’r tro cyntaf i fi ymwneud ag astudio rhagfarn hiliol.”

  • Bydd cynhadledd ‘Dychmygu Hanes: Cymru mewn ffuglen a ffaith’ yn cael ei chynnal ar-lein ar Dachwedd 12 a 13, ac mae modd cofrestru ar wefan Prifysgol De Cymru.
  • Mae arddangosfa ‘Dychmygu Hanes: Cymru mewn ffuglen a ffaith’ ar agor yn Oriel y Bont, Campws Trefforest, Prifysgol De Cymru nes Tachwedd 17, ac yn cynnwys paentiadau, gosodiadau, ffotograffau, cerfluniau, straeon a ffilmiau. Mae’r gwaith yn datgelu’r broses ‘o greu ffuglen’ i adlewyrchu neu i ailosod hunaniaethau cenedlaethol a phersonol mewn ymgais i adrodd neu ail-adrodd hanesion.

 

Y gwir cas am y castell

Non Tudur

Nofel am gaethwasiaeth yw’r “anoddaf” i Angharad Tomos ei sgrifennu erioed