Fe fydd digrifwraig o Gaerdydd yn serennu mewn comedi newydd ar BBC Cymru nos fory (nos Lun, Tachwedd 8, 11.05yh).

Mae Priya Hall, sy’n enw cyfarwydd ar lwyfannau stand-yp, newydd fod yn cystadlu yng nghystadleuaeth y BBC New Comedy Awards i ddod o hyd i ddigrifwyr newydd y Deyrnas Unedig.

A bydd hi i’w gweld ar y sgrîn fach unwaith eto, wrth iddi serennu yn Beena and Amrit, ochr yn ochr â Meera Syal, sy’n adnabyddus fel actores gomedi mewn cyfresi fel Goodness Gracious Me a The Kumars at No. 42 ac a fydd yn chwarae cymeriad ei mam.

Y rhaglen

Mae’r rhaglen yn adrodd hanes Beena, dynes ifanc 21 oed sydd â’i bywyd o’i blaen.

Mae hi newydd raddio mewn gwleidyddiaeth ac mae hi’n edrych ymlaen at ddechrau gyrfa, tan iddi gael ei galw’n ôl i gymoedd y de i ofalu am ei mam, Amrit, dynes yn 40au sy’n anghyfrifol a newydd gael ysgariad o lystad Beena.

O fewn dim o dro, caiff Beena ei hun yn ddyfarnwr rhwng ei mam a’r teulu estynedig ac mae’n cael effaith ar ei bywyd, ond nid o reidrwydd ar ei pherthynas â’i chariad (cudd).

Mae Beena yn chwilio am barsel coll gan ei mam-gu a’i thad-cu ond buan y daw’n amlwg fod y parsel bellach yn nwylo’i mam.

Y Cymry yn y cynhyrchiad

Yn ogystal â Priya, mae nifer o Gymry a Chymry Cymraeg blaenllaw’r sîn gomedi yn ymwneud â’r rhaglen.

Priya sydd wedi cyd-ysgrifennu’r rhaglen gyda Sarah Breese.

Dan Thomas, sydd hefyd yn ymddangos fel y cymeriad Cyril, sydd wedi cynhyrchu’r rhaglen a Sara Allen yw’r uwch gynhyrchydd a hithau wedi gweithio ar gyfresi fel Rhod Gilbert’s Work Experience.

Keri Collins (Tourist Trap) yw’r cyfarwyddwr.

Mae eisoes wedi’i darlledu ar Radio Wales, gyda Shobhna Gulati (Coronation Street a Dinnerladies) ochr yn ochr â Priya.

Gŵyl Gomedi Aberystwyth yn gyfle “i ddod â’r dref yn fyw”

Cadi Dafydd

Bydd Gŵyl Gomedi Aberystwyth yn dychwelyd fis Hydref, ac yn cynnwys mwy o sioeau nag erioed
Logo Radio Cymru

“Hunllef yng Nghymru Sydd”: atebion digrifwyr i rai o gwestiynau mawr Cymru

Sut i gyrraedd Miliwn o Siaradwyr Cymraeg yw’r cwestiwn dan sylw am 1.30yp heddiw (dydd Sadwrn, Hydref 10)