Bydd Gŵyl Gomedi Aberystwyth yn dychwelyd eleni, ac yn cynnwys mwy o sioeau nag erioed, ac mae un o’r digrifwyr fydd yn perfformio yno’nn dweud ei bod yn gyfle i “ddod â’r dref yn fyw”.

Eleni fydd y tro cyntaf i Carys Eleri berfformio yn yr ŵyl, ac ar ôl perfformio yng Ngŵyl y Dyn Gwyrdd dros y penwythnos, dywedodd ei bod yn “rhyddhad” cael perfformio eto.

Bydd nifer o enwogion y byd comedi, gan gynnwys Rhod Gilbert, Kiri Pritchard-McLean, Jessica Fostekew, Rosie Jones, Tarot a Josh Widdicombe, yn perfformio yn Aberystwyth rhwng Hydref 1-3.

Ymhlith y perfformwyr amlycaf eraill o Gymru mae Tudur Owen, Robin Morgan, Priya Hall, Esyllt Sears, Leila Navabi a Steffan Alun.

‘Rhyddhad’

Mae’n “grêt” bod Gŵyl Gomedi Aberystwyth yn dychwelyd eleni, meddai Carys Eleri, gan ychwanegu ei bod yn gymaint o “ryddhad” gwneud set gomedi yng Ngŵyl y Dyn Gwyrdd.

“Sa i wedi bod yng Ngŵyl Gomedi Aberystwyth o’r blaen, dw i wedi bod ym Machynlleth so, i fi, mae e’n rili exciting,” meddai Carys Eleri wrth golwg360.

“Mae fe’n rili lyfli, mae cymaint o gomedïwyr amazing ymlaen, ac roedd lot ohonyn nhw yn Green Man, ond chaethon ni ddim cyfle i weld ein gilydd.

“Fi wedi cael ychydig bach o practice run, fe wnes i ’sgwennu’r holl ganeuon comedi yn y pandemig ar gyfer Radio Wales, ac mae’r albwm diweddaraf sydd ma’s gyda fi o’r enw An Unexpected Pandemic Pop Album Volume 1. Let’s Hope There’s No Volume 2. Enough Volume yn cynnwys saith cân wnes i eu creu ym mhob clo mawr.

“Y bobol sy’n rhedeg Aberystwyth wnaeth gomisiynu fi’r holl ffordd ar gyfer y BBC.

“Mae’r leinyp yn fabulous, fi’n disgwyl ymlaen.

“Mae’n lyfli gallu iwsio tref a mynd o un venue i’r llall, a dod â’r dref yn fyw achos mae Aberystwyth mor gorgeous.

“Dim ond unwaith dw i wedi bod yn Aberystwyth ers y pandemig, ac mae hi mor lyfli bod yna… llefydd bwyta biwtiffwl, ti ar y traeth, a fi jyst yn rili excited bod gŵyl yn mynd i fod sy’n mynd i ddenu pobol i fan yna.”

Esbonia fod ei gwaith “hanner ffordd rhwng cabaret a disgo, a jyst yn lot sbort”, ac yn gyfle i gael “bod yn sili”.

Mae Gŵyl Gomedi Aberystwyth yn cael ei chynnal ar yr un penwythnos â Gŵyl Talacharn, a bydd Carys Eleri yn perfformio yn y ddwy ŵyl.

“Fe wnes i raglen radio ar Radio 4 amdano’r bardd canoloesol Gwerful Mechain, so fi’n gwneud hwnna yn Laugharne a fi’n gwneud bach o ganu yn Laugharne,” meddai.

‘Platfform anhygoel’

Cafodd Gŵyl Gomedi Aberystwyth ei sefydlu yn 2018 gan Little Wander, y tîm sy’n gyfrifol am Ŵyl Gomedi Machynlleth, a Henry Widdicombe yw un o’r sylfaenwyr.

“Mae yna gymaint o gomedïwyr amazing yn cael eu maethu fan hyn yng Nghymru nawr,” meddai Carys Eleri wedyn.

“Mae Henry Widdicombe… mae e’n rili gofalu a rhoi’r cyfleoedd amazing i gomedïwyr o Gymru.

“Mae e wedi rhoi platfform anhygoel dw i’n meddwl, achos fe oedd yn curate-io Green Man Comedy Tent.

“Ers Machynlleth, mae e’n rili credu mewn comedïwyr Cymraeg, ac mae fe’n rili credu yn y ddwy iaith o ran comedi hefyd.”

“Cyfnod anodd”

“Ar ôl i dair o’n gwyliau gael eu canslo dros y flwyddyn a hanner ddiwethaf, ry’n ni mor falch o weld bod rhai o sioeau Aberystwyth eleni yn gwerthu allan yn barod,” meddai Henry Widdicombe.

“Mae wedi bod yn gyfnod anodd i bawb yn y diwydiannau adloniant byw a’r celfyddydau, felly allwn ni ddim aros i groesawu ein cynulleidfaoedd yn ôl – hebddyn nhw, allen ni wneud dim o’r hyn ry’n ni’n ei wneud.”