Ar 4 Medi, bydd gig i ddathlu talent lleol yn cael ei gynnal yng Nghlwb Rygbi Bethesda.

Mae’r noson wedi ei threfnu ar y cyd â Bro360 fel rhan o ddigwyddiad ehangach Gŵyl Bro.

Bydd sawl digwyddiad amrywiol yn cael eu cynnal ar draws yr ardaloedd Bro drwy gydol penwythnos 3 i 5 Medi.

Yn ymddangos yn Noson Ogwen fydd yr artistiaid ifanc lleol Yazzy, Adam Boggs, Dafydd Hedd, Orinj a CAI – gan gyfleu amrywiaeth o R&B i roc indi.

Mae’r noson yn cael ei threfnu gan un o’r artistiaid sy’n chwarae, Dafydd Hedd, sy’n ganwr ac ysgrifennydd caneuon indi o Gerlan.

Yazzy

Mae Yazzy yn artist benywaidd, sy’n disgrifio ei hun fel cantores pop ac enaid ac yn cynhyrchu ei cherddoriaeth ei hun.

Dywed y trefnydd bod Adam Boggs yn “ffefryn gyda phobl leol” Bethesda, ac mae o wedi gigio efo neb llai na Celt a Maffia Mr Huws.

“Sain Kurt Cobain-aidd” sydd gan Orinj yn ôl Dafydd Hedd, ac maen nhw newydd ryddhau eu halbwm cyntaf.

Yn olaf ar y lein-yp mae enillydd cystadleuaeth ail-gymysgiad Brwydr y Bandiau 2021, sef yr artist unigol CAI.

“Wrth i bobl ddechrau mynd allan eto, a gigs bron yn sicr ar gyfer artistiaid sy’n gallu gwerthu allan lleoliadau, mae’n bwysig peidio ag anghofio’r sin yn lleol,” meddai Dafydd Hedd.

“Am £5 i wylio – punt y perfformiad – ymhyfrydwch yn y ffaith bod sin gerddoriaeth Bethesda a’r ardal mewn dwylo diogel ar gyfer y dyfodol.”