Mae cartref gofal a 33 o dai am gael eu hadeiladu gyferbyn â Pharc y Scarlets yn Llanelli.

Bydd gan y cartref gofal hyd at bedwar llawr a lle i 84 gwely, ac mae disgwyl i tua 20% o’r tai fod yn rhai fforddiadwy.

Roedd y safle’n arfer bod yn gartref i Ysgol Gynradd yr Ynys tan iddi gael ei dymchwel oddeutu deng mlynedd yn ôl.

Fe wnaeth pwyllgor cynllunio Cyngor Sir Gaerfyrddin, sy’n berchen ar y safle 1.4 hectar, gymeradwyo’r cais gan Padda Care yn unfrydol mewn cyfarfod ar ddydd Iau, 19 Awst.

Roedd ambell gynghorydd ac aelodau o’r cyhoedd wedi mynegi pryder am effaith y datblygiad ar strydoedd cyfagos o ran traffig, ond fe wnaeth y pwyllgor addo y bydd yna ddigon o lefydd parcio yn rhan o’r datblygiad a bydd yr effaith ar strydoedd eraill yn “gyfyngedig.”

Dywed Piers Tumeth, rheolwr gyfarwyddwr Padda Care, y bydd y gwaith datblygu’n dechrau cyn bo hir.

“Bydd y datblygiad (cartref gofal) yn Llanelli yn mynd allan ar dendr i nifer o gontractwyr lleol yn fuan a byddwn yn edrych i ddechrau adeiladu o fewn chwe mis.”