Mae Bryn Terfel wedi anfon “llongyfarchiadau gwresog” i Ŵyl Gerdd Ryngwladol Gogledd Cymru, sy’n dathlu ei hanner can mlwyddiant eleni.

Cafodd yr ŵyl ei sefydlu yn 1972 gan yr Athro William Mathias, a ysgrifennodd gerddoriaeth ar gyfer nifer o achlysuron brenhinol, gan gynnwys Jiwbilî Arian y Frenhines yn 1977 a phriodas y Tywysog Charles a Diana Spencer yn 1981.

Cafodd yr ŵyl ei chynnal ar-lein y llynedd oherwydd pandemig y coronafeirws.

Dywed y trefnwyr fod cefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru a noddwyr yr ŵyl yn hanfodol er mwyn galluogi’r digwyddiad i fynd yn ei blaen.

Eleni, bydd pum cyngerdd yn cael eu cynnal yng nghartref traddodiadol yr ŵyl, Eglwys Gadeiriol Llanelwy, gyda Phumawd Tango Llundain yn cynnwys Craig Ogden ar y gitâr yn perfformio ar y noson agoriadol, ar ddydd Iau (Medi 30).

Ymhlith yr uchafbwyntiau eraill mae grŵp cerddoriaeth siambr Ensemble Cymru a’r delynores Catrin Finch yn perfformio gyda’r chwaraewr kora Seckou Keita ar y noson olaf, ar ddydd Llun (Hydref 4).

At hynny, bydd première Cymru o ‘concerto piano’ newydd gan y cyfansoddwr brenhinol Paul Mealor a gafodd ei gyd-gomisiynu gan yr ŵyl, ynghyd â pherfformiadau rhyngwladol cyntaf gweithiau gan y cyfansoddwyr Jon Guy a Brian Hughes.

Mae tocynnau ar gael ar-lein neu dros y ffôn, o Theatr Clwyd, Yr Wyddgrug neu Fframiau’r Gadeirlan, Llanelwy.

“Carreg filltir”

“Mae cyrraedd y garreg filltir bwysig hon yn gyflawniad rhyfeddol i Ŵyl Gerdd Ryngwladol Gogledd Cymru ac anfonaf fy llongyfarchiadau gwresog iddi,” meddai Bryn Terfel.

“Mae’r digwyddiad bellach wedi’i sefydlu’n gadarn fel un o’r uchafbwyntiau yn ein calendr diwylliannol ac mae’n etifeddiaeth barhaol i weledigaeth ei sylfaenydd, y cyfansoddwr William Mathias.

“Yn y dyddiau anodd a phryderus hyn mae’r ŵyl hefyd yn symbol o’n cariad parhaus at gerddoriaeth glasurol ac mae’n parhau i ddenu perfformwyr o safon ryngwladol.

“Fel cymaint o ddigwyddiadau eraill, mae’r ŵyl wedi gorfod addasu i’r sefyllfa bresennol ac aeth yn ddigidol am y tro cyntaf yn ei hanes y llynedd ac roedd yn gallu estyn allan at gynulleidfa ehangach fyth. Siawns na fydd y ‘llinyn ychwanegol hwn at eu bwa’ yn eu rhoi mewn safle da.”

 “Hyfryd”

Dywed Ann Atkinson, cyfarwyddwr artistig yr ŵyl sy’n gantores mezzo soprano, y “bydd hi mor hyfryd bod yn ôl yn yr eglwys gadeiriol gyda chynulleidfa fyw, ac rydym yn ddiolchgar iawn i Gyngor Celfyddydau Cymru a noddwyr yr ŵyl am eu cefnogaeth barhaus”.

“Cyrhaeddodd gŵyl ddigidol y llynedd gynulleidfa fyd-eang a bydd ail ran yr ŵyl eleni yn gyfres o gyngherddau ar-lein ym mis Tachwedd ar gyfer y bobl sydd wedi bod yn ein dilyn o America, o bob rhan o Ewrop, ac ar draws y byd mor bell i ffwrdd â Seland Newydd – yn ogystal â’r rhai sy’n agosach at adref,” meddai.

“Bydd hyn yn rhoi’r gorau o ddau fyd i ni oherwydd, yn ogystal â rhoi cyfle i fwynhau cerddoriaeth fyw yn yr eglwys gadeiriol unwaith eto, byddwn hefyd yn gallu estyn allan at gynulleidfa fyd-eang.

“Rydym yn hynod ddiolchgar i Syr Bryn a Hannah am eu dymuniadau gorau, yn enwedig gan fod y ddau wedi perfformio yn yr ŵyl yn y gorffennol ac yn gwybod beth yw hanfod yr ŵyl.

“Mae’n rhaglen brysur iawn eleni ac rydym yn mynd i gael y pleser o fwynhau cerddoriaeth anhygoel wedi’i pherfformio gan gerddorion talentog o’r radd flaenaf.

“Mae yna rywbeth i bawb ac rwy’n gyffrous iawn am ŵyl eleni.”