Liam Reardon o Ferthyr Tudful a’i bartner Millie Court sydd wedi ennill y gyfres deledu Love Island eleni.

Fe wnaeth Liam Reardon, 22, a Millie Court, 24, guro Chloe Burrow a Toby Aromolaran, Teddy Soares a Faye Winter a Kaz Kamwi a Tyler Cruickshank yn y ffeinal neithiwr (23 Awst).

Roedd Millie Court o Essex wedi ystyried gwahanu oddi wrth y briciwr ar un adeg ond aeth y ddau o nerth i nerth gan gipio’r wobr o £50,000.

Nid dyma’r tro cyntaf i rywun o Gymru ennill y gyfres, wedi i Amber Davies o Ddinbych ddod i’r brig yn 2017.

Mae nifer o’r cystadleuwyr Cymraeg ar y rhaglen wedi derbyn canmoliaeth yn y gorffennol am eu defnydd o’r Gymraeg, ac eleni gwelwyd y bechgyn yn canu Penblwydd Hapus i Liam Reardon.

Mae’r gyfres, sydd wedi’i lleoli mewn fila yn Sbaen, wedi bod ar y teledu ers bron i ddeufis, ac yn yr amser hynny mae bron i 40 o unigolion wedi bod yno’n chwilio am gariad.

Hon oedd y gyfres gyntaf i gael ei darlledu ers i gyfres gaeaf 2020 orffen ychydig cyn dechrau’r pandemig.

Connagh Howard

Bethan Lloyd

Mae’n ennill ei fara menyn yn fodel a dylanwadwr ar y cyfryngau cymdeithasol, ac yn rhannu ei amser rhwng Caerdydd a Newcastle