Mae Charlie Watts, drymiwr y Rolling Stones, wedi marw’n 80 oed.
Fe fu’n aelod o’r band roc ers 1963, ac fe gafodd ei ben-blwydd yn ddiweddar.
Bu farw yn yr ysbyty yn Llundain yng nghwmni ei deulu ac mewn teyrnged, dywed ei deulu ei fod yn ŵr, tad a thad-cu, yn ogystal â bod yn “un o ddrymwyr gorau ei genhedlaeth”.
Daeth cadarnhad ddechrau’r mis na fyddai’n teithio gyda’r band i’r Unol Daleithiau wrth iddo wella o driniaeth feddygol.
Mae disgwyl i’r band ailddechrau’r daith fis nesaf ar ôl iddi gael ei gohirio y llynedd o ganlyniad i Covid-19, ac roedd Steve Jordan wedi’i gadarnhau’n aelod dros dro o’r band yn absenoldeb Charlie Watts.
Mae disgwyl i’r daith ddechrau yn St Louis ar Fedi 26, ac i’r band chwarae yn Pittsburgh, Nashville, Minneapolis a Dallas ymhlith llefydd eraill.
Ynghyd â Mick Jagger a Keith Richards, roedd Charlie Watts yn un o aelodau mwyaf hirdymor y band, sydd hefyd wedi gweld Mick Taylor, Ronnie Wood a Bill Wyman yn ymuno ar hyd y blynyddoedd.
Yn 2004, cafodd Charlie Watts driniaeth am ganser y gwddf ac fe wnaeth e wella ar ôl pedwar mis, gan gynnwys chwe mis o radiotherapi.
Fe fu’n ysmygu hyd nes yr 1980au, ond fe roddodd y gorau iddi pan gafodd e wybod fod canser arno fe, ac fe ddywedodd fod meddygon yn teimlo ei fod e wedi bod yn “lwcus iawn”.