Mae theatrau Cymru yn wynebu heriau “enfawr” wrth iddyn nhw baratoi at ail-agor.
Gyda rheoliadau Llywodraeth Cymru bellach yn caniatáu i theatrau ailagor ar gapasiti llawn, mae arolwg newydd wedi dangos fod ystyriaethau newydd yn wynebu’r sector.
Mae Creu Cymru, cynghrair sector celfyddydau perfformio Cymru, wedi darganfod bod heriau masnachol, rhaglennu, staffio ac iechyd a diogelwch cymhleth yn eu hwynebu wrth baratoi i ailagor yn llawn.
Bydd y sioe gyntaf i groesawu cynulleidfa lawn yn ei hôl yng Nghymru’n cael ei chynnal ddydd Mawrth nesaf (31 Awst), pan fydd Jimmy Carr yn ymweld â Neuadd Dewi Sant yng Nghaerdydd.
Mae Theatr Genedlaethol Cymru, yn debyg i nifer o theatrau eraill, yn bwriadu ailgyflwyno capasiti yn raddol, ond maen nhw’n rhagweld y bydd rhywfaint o gadw pellter cymdeithasol yn parhau am weddill y flwyddyn ariannol.
“Dull graddol”
Erbyn hyn, maen nhw’n croesawu’r cyhoeddiad diweddaraf gan Lywodraeth ynglŷn â chodi cyfyngiadau, a’u nod yw cyflwyno gwaith ar raddfa fwy erbyn Chwefror a Mawrth 2022.
“Rydyn ni’n croesawu cyhoeddiad diweddaraf Llywodraeth Cymru ynglŷn â chodi cyfyngiadau Covid-19. Bydd hyn yn cael effaith sylweddol gadarnhaol ar y theatr a pherfformiadau byw’n gyffredinol yng Nghymru,” meddai Arwel Gruffydd.
“Fel cwmni theatr heb ein canolfan ein hunain, rydyn ni wedi cydweithio’n agos â chanolfannau ar draws Cymru ar ddulliau fesul cam o ddychwelyd i theatr fyw.
“Ar raddfa gymharol fach y mae ein cynyrchiadau teithiol ym mis Awst, yr hydref a chyn y Nadolig, ond ym mis Chwefror a mis Mawrth 2022, ein nod yw cyflwyno gwaith ar raddfa fwy o faint.
“Rydyn ni’n rhagweld y bydd canolfannau’n cadw rhai mesurau pellter cymdeithasol tan ganol mis Tachwedd, ond yn cyflwyno i gynulleidfaoedd capasiti llawn ar ôl hynny.
“Fodd bynnag, yn ein modelu ariannol, rydyn ni wedi rhagweld rhywfaint o bellter cymdeithasol o hyd (yn ôl disgresiwn pob canolfan) am weddill y flwyddyn ariannol yma.
“Ein cred yw y bydd dull graddol, sy’n dechrau gyda chyflwyniadau ar raddfa fach yn yr haf a’r hydref, gan symud ymlaen at waith ar raddfa fwy o faint ar ddechrau’r gwanwyn, a mynd o berfformiadau awyr agored yn bennaf yn ystod yr haf eleni i berfformiadau dan do yn yr hydref a thu hwnt, yn ffordd briodol a phwyllog o adennill hyder y cyhoedd mewn mynychu theatr fyw.
“Mae hefyd yn gadael i ni reoli’r risgiau ariannol sy’n gysylltiedig â dychwelyd yn raddol i’r lefelau ymgysylltu cyn-Covid â theatr fyw ar draws Cymru.”
“Sicrhau hyder”
Er bod rhan fwyaf o theatrau ar draws Cymru wrth eu boddau’n cael ailagor, dangosodd yr arolwg barn eu bod nhw’n pryderu ynghylch y pwysau ariannol cystadleuol o ailagor ar gapasiti llawn.
Cafodd pryderon ynghylch yr angen i gynlluniau fod yn hyblyg, trafferthion gyda phrinder staff, a’r angen am gadw mesurau er mwyn sicrhau hyder y gynulleidfa eu codi yn yr arolwg hefyd.
“Er bod y rhan fwyaf o theatrau ar draws Cymru wrth eu boddau cael paratoi at eu hailagor hirddisgwyliedig, dangosodd ein harolwg barn diweddar fod canolfannau mawr a mân yn adrodd yn unfryd am eu pryderon ynghylch y pwysau ariannol cystadleuol i ailagor hyd at gapasiti llawn wrth i’r rheoliadau ganiatáu hynny, gyda llawer yn teimlo bod parhau â chadw pellter cymdeithasol ac felly niferoedd llai o ran cynulleidfaoedd yn debygol o bara fel yr unig lwybr cynhaliol i sicrhau hyder hanfodol y gynulleidfa,” esboniodd Louise Miles-Payne, Cyfarwyddwr Creu Cymru.
“A ninnau’n cynrychioli’r sector yng Nghymru, rydyn ni’n annog cwsmeriaid i ddefnyddio’r profion llif unffordd y gellir eu hanfon i’ch cartref a’u gwneud yn eich amser eich hun.
“Mae gwybod eich bod chi’n ddiogel cyn i chi fynd i berfformiad yn helpu i ddiogelu’r rheini o’ch cwmpas a chadw hud a lledrith y theatr yn fyw.”