Mae’r digrifwr Bill Bailey wedi dweud ar wefan gymdeithasol Twitter ei fod e “wir wedi mwynhau” ei ymweliad â Brynbuga ddoe (dydd Sadwrn, Tachwedd 7).

Roedd e yn Sir Fynwy i ddadorchuddio cofeb i Alfred Russel Wallace, cydweithiwr Charles Darwin wrth iddo ddyfeisio’i ddamcaniaeth esblygiad yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Serch hynny, Darwin sydd wedi’i gysylltu’n bennaf â’r ddamcaniaeth erbyn hyn ac mae Wallace wedi’i anghofio i raddau helaeth.

Fe ddaeth y digrifwr ar draws Wallace yn ystod taith i Indonesia rai blynyddoedd yn ôl ac mae e bellach yn gadeirydd ar y Wallace Correspondents Society ac wedi cyflwyno rhaglen yn adrodd hanes Darwin a Wallace.

Pwy oedd Alfred Russel Wallace?

Cafodd Alfred Russel Wallace ei eni ym Mrynbuga yn 1823, ac roedd yn naturiaethwr, yn ddyneiddiwr, yn ddaearyddwr ac yn feirniad cymdeithasol.

Daeth yn adnabyddus yn ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg am ei farn am faterion gwyddonol, cymdeithasol ac ysbrydol.

Fe weithiodd ar ei ddamcaniaeth esblygiad ei hun ymhell cyn Charles Darwin, ac roedd hefyd wedi ysgrifennu’n helaeth am faterion cymdeithasol ac ysbrydol eraill oedd yn ei gorddi.

Cafodd ei eni yng Nghymru ond ei fagu yn Swydd Hertford, yn fab i deulu digon cyffredin, ac fe gafodd ei addysg yn Ysgol Ramadeg Hertford, ond dim ond am rai blynyddoedd o ganlyniad i dlodi ei deulu.

Cafodd e fagwraeth Gristnogol yn Eglwys Loegr, ond fe gafodd ei addysgu mewn pynciau seciwlar yn Llundain yn ddiweddarach, ac fe daniodd hynny ei frwdfrydedd a’i chwilfrydedd am bynciau gwyddonol.

Fe ddaeth dan ddylanwad gweithiau Robert Owen a’i fab Robert Dale Owen, a dyna oedd wedi sbarduno’i waith yn amau crefydd, yn ogystal â’i athroniaeth sosialaidd.

Yn 1837, aeth yn brentis yng nghwmni ei frawd yn llunio mapiau i rannu tir rhwng tirfeddianwyr ac at ddibenion cyfreithiol eraill. Fe gwblhaodd y gwaith hwn yn Swydd Bedford ac yng Nghymru, gan fyw ymhlith ffermwyr a gweld anghyfiawnderau bywyd.

Aeth ati i lunio traethawd am ffermwyr de Cymru ac fe gafodd ei gyhoeddi yn ei hunangofiant yn ddiweddarach.

Ar ôl i’w waith ddod i ben yng nghanol gwrthdystiadau ffermwyr y de, dychwelodd i Loegr yn athro.

Yn dilyn marwolaeth ei frawd, fe fu’n gofalu am gwmni ei frawd, gan adeiladu athrofa i beirianwyr yng Nghastell-nedd gyda brawd arall.

Ei waith a’i ddiddordebau

Mae ei gyfrolau Geographical Distribution of Animals (1876) ac Island Life (1880) wedi bod yn gyfeirlyfrau pwysig ym maes sŵoleg a bioddaearyddiaeth ynysoedd ar gyfer esblygiad anifeiliaid.

Fe luniodd erthygl ar anifeilaid yn addasu i’w cynefinoedd ar gyfer nawfed argraffiad Encyclopædia Britannica (1875–89), ac fe fu’n darlithio yn y Deyrnas Unedig a’r Unol Daleithiau, gan deithio’n helaeth yn Ewrop.

Roedd yn gwrthwynebu brechlynnau, ewgeneg a bywddyraniad, ond yn cefnogi hawliau merched a gwladoli tir.

Fe ddaeth yn fwyfwy ysbrydol yn ystod ei fywyd a’i yrfa.

Derbyniodd e wobrau lu am ei waith, gan gynnwys Medal Frenhinol Cymdeithas Frenhinol Llundain, Medal Darwin, Medal Copley, yr Order of Merit, Medal Aur Cymdeithas Linnean Llundain, Medal Darwin-Wallace, a’r Founder’s Medal gan y Gymdeithas Ddaearyddol Frenhinol.

Cafodd e ddoethuriaethau er anrhydedd hefyd gan brifysgolion Dulyn a Rhydychen, a’i ethol yn aelod o’r Gymdeithas Frenhinol.

Cyhoeddodd e gyfanswm o 21 o gyfrolau, ac mae mwy na 700 o eitemau ymhlith ei erthyglau, ei draethodau a’i lythyron mewn cyfnodolion.

Cafodd medal er anrhydedd ac er cof amdano ei dadorchuddio yn Abaty Westminster yn 1915.