Mae rheolwr Stadiwm Principality wedi condemnio ymddygiad cefnogwr a gamodd ar y cae yn ystod gêm rygbi Cymru yn erbyn De Affrica heddiw (dydd Sadwrn, Tachwedd 6).
Fe ddigwyddodd wrth i Gymru ymosod, gyda Liam Williams yn rhedeg i gyfeiriad y cefnogwr wrth i stiwardiaid geisio dal ac atal y dyn.
Daw’r digwyddiad wythnos yn unig ar ôl i Jarvo, digrifwr sy’n adnabyddus ar y cyfryngau cymdeithasol am geisio mentro i gaeau gwahanol gampau, fynd heibio stiwardiaid cyn camu ar y cae a sefyll ochr yn ochr â chwaraewyr Seland Newydd wrth iddyn nhw ganu’r anthem genedlaethol.
Fe gyhoeddodd e fideo o’i ymdrechion wedi’r digwyddiad.
Ac mae’r digwyddiad heddiw wedi ennyn ymateb chwyrn ar y cyfryngau cymdeithasol.
“Rydym yn condemnio’r math yma o ymddygiad yn y ffordd gryfaf bosib,” meddai Mark Williams, rheolwr y stadiwm.
“Cafodd ei ddal a’i dywys ar unwaith o’r stadiwm a’i drosglwyddo i Heddlu’r De.”
Deiseb
The pitch invader from the Wales vs South Africa game got a lovely welcome from the crowd as he got escorted out of the stadium. ? pic.twitter.com/FV3ScLZBE9
— RugbyLAD (@RugbyLAD7) November 6, 2021
Mae deiseb wedi’i sefydlu ar y we ers y digwyddiad yn enwi’r unigolyn, Callum Rowe.
Mae’n galw ar iddo gael ei wahardd am oes rhag mynd i’r stadiwm.
Mae’r ddeiseb yn honni iddo atal cais i Liam Williams a buddugoliaeth i Gymru.
Mae wedi denu degau o lofnodion eisoes.