Mae rheolwr Stadiwm Principality yn dweud bod y digwyddiad lle cafodd y digrifwr ‘Jarvo’ fynediad i’r cae yn ystod gêm rygbi Cymru yn erbyn Seland Newydd ddydd Sadwrn (Hydref 30) “yn ddigwyddiad anffodus”.

Roedd y digrifwr Daniel Jarvis, sydd wedi dod yn dipyn o seren ar y cyfryngau cymdeithasol yn sgil ei ymdrechion i gamu ar gaeau chwaraeon y Deyrnas Unedig, wedi cyhoeddi fideo yn dangos ei daith o’r eisteddle i gae Stadiwm Principality.

Mae e eisoes wedi cael ei hun mewn dŵr poeth am gamu i gae criced yr Oval yn Llundain a gwthio Jonny Bairstow, batiwr Lloegr, wrth geisio bowlio at Moeen Ali yn ystod gêm brawf yn erbyn India eleni.

Fe fydd e’n wynebu achos llys fis Mawrth nesaf yn sgil y digwyddiad hwnnw.

Ddechrau’r mis hwn, fe lwyddodd i gamu ar y cae yn Stadiwm Tottenham Hotspur yn ystod gêm bêl-droed Americanaidd rhwng y Jacksonville Jaguars a’r Miami Dolphins yn Llundain.

Fideo

Ond Caerdydd yw lleoliad ei weithred ddiweddaraf, ac mae e wedi cyhoeddi fideo yn dangos ei daith o’r eisteddle i sefyll ochr yn ochr â chwaraewyr Seland Newydd ar gyfer yr anthemau.

Mae’r fideo’n ei ddangos yn gadael ei sedd, yn cerdded i lawr y grisiau tuag at yr ystlys, neidio dros hysbysfwrdd a rhedeg o gornel y stadiwm i’r llinell hanner, cyn sefyll drws nesaf i’r chwaraewyr yn gwisgo mwgwd.

Wrth sylweddoli’r hyn oedd wedi digwydd, cafodd ei dywys oddi yno gan swyddog cyn i nifer yn rhagor o swyddogoion eraill gyrraedd.

Er bod y digwyddiadau i’w gweld yn ddigon doniol ar y cyfan, fe fydd cwestiynau’n codi unwaith eto ynghylch sut y bu i ffigwr mor adnabyddus lwyddo i gael mynediad i’r cae chwarae.

Ymateb

Roedd golwg360 wedi gwneud cais am ymateb gan y stadiwm, ond dydyn nhw ddim wedi ateb hyd yn hyn.

Ond wrth siarad â’r BBC, dywed Mark Williams, rheolwr Stadiwm Principality fod y digwyddiad yn un “anffodus”.

“Cafodd y tresmaswr ei symud o’r cae chwarae a’i daflu allan o’r stadiwm,” meddai.

“Cafodd y mater sylw yn ystod y sesiwn dad-friffio ar ôl y gêm, a bydd y canfyddiadau’n cael eu cynnwys mewn briffiadau diogelwch yn y dyfodol.”

 

‘Jarvo’ yn cyhoeddi fideo ar ôl llwyddo i gyrraedd cae Stadiwm Principality

Mae’r digrifwr, sy’n dipyn o seren ar y cyfryngau cymdeithasol, wedi llwyddo i gamu ar sawl cae chwaraeon