Mae tri o gyn-reolwyr tîm pêl-droed Abertawe yn cael eu cysylltu â swydd rheolwr Spurs.
Daeth cadarnhad heddiw (dydd Llun, Tachwedd 1) fod Nuno Espirito Santo wedi’i ddiswyddo gan y clwb yng ngogledd Llundain ar ôl pedwar mis yn unig wrth y llyw.
Maen nhw wedi colli pump allan o’u deg gêm diwethaf yn Uwch Gynghrair Lloegr.
Fe wnaeth Nuno olynu ei gydwladwr Jose Mourinho ar Fehefin 30, ac mae’r tîm wedi colli saith allan o 17 o gemau i gyd, a dydyn nhw ddim wedi cael ergyd lwyddiannus at y gôl ers dwy awr ac 16 munud.
Er mai Antonio Conte yw’r ffefryn cynnar i fod yn rheolwr nesa’r clwb, mae Graham Potter, rheolwr Brighton oedd wrth y llyw yn Stadiwm Liberty am dymor 2018-19, hefyd ymhlith y ffefrynnau.
Mae Roberto Martinez, rheolwr Gwlad Belg oedd wrth y llyw yn yr Elyrch rhwng 2007 a 2009, a Brendan Rodgers, oedd wrth y llyw rhwng 2010 a 2012 wrth i’r clwb godi i’r Uwch Gynghrair, hefyd yn cael eu cysylltu â’r clwb gan y bwcis.