Mae’r canolwr Jonathan Davies yn dweud y bydd tîm rygbi Cymru yn barod i herio De Affrica, pencampwyr y byd, ddydd Sadwrn nesaf (Tachwedd 6).

Collon nhw eu gêm gyntaf yng nghyfres yr hydref o 54-16 yn erbyn Seland Newydd yn Stadiwm Principality ddydd Sadwrn (Hydref 30).

Ond mae gan Gymru record dipyn gwell yn erbyn y Springbok na’r Crysau Duon, ac maen nhw wedi’u curo nhw bedair gwaith yn olynol yng Nghymru.

Dydy De Affrica ddim wedi curo Cymru yng Nghaerdydd ers wyth mlynedd, ond fe wnaeth y Springbok guro’r Crysau Duon yn y Bencampwriaeth Rygbi’n ddiweddar, ar ôl curo’r Llewod o 2-1 dros yr haf.

‘Rydyn ni bob amser yn ceisio datblygu ein gêm’

Jonathan Davies oedd y capten ar ôl i Alun Wyn Jones adael y cae ag anaf i’w ysgwydd ar ôl 18 munud o’r gêm yn erbyn Seland Newydd.

“Rydyn ni bob amser yn ceisio datblygu ein gêm,” meddai.

“Un peth mae’r tîm hwn bob amser yn ei ddangos yw po fwyaf o amser rydyn ni’n ei dreulio gyda’n gilydd, gorau ydyn ni.

“Byddwn ni’n rhoi hwn y tu ôl i ni, yn dod i mewn ar ddydd Llun ac yn ceisio adeiladu a chael canlyniad gartref yr wythnos nesaf.

“Y pethau bach yw e – peidio symud ymlaen wrth gicio, gadael yn gywir a pheidio rhoi pwysau arnon ni ein hunain.

“Y ffordd mae De Affrica’n chwarae, maen nhw eisiau rhoi pwysau arnoch chi.

“I ni, mae’n fater o sicrhau ein bod ni’n adeiladu ac yn chwarae yn y llefydd cywir ar y cae.

“Edrychwch, rydych chi’n gweithio’n galed i gael canlyniad, a phan dydych chi ddim yn ei gael e, mae’n brifo.

“Y peth da amdano fe nawr yw fod gyda ni gyfle arall yr wythnos nesaf i roi pethau’n iawn.

“Dyna fydd y grŵp yma eisiau ei ddangos yr wythnos nesaf.”