Mae Jonny Clayton, y Cymro Cymraeg o Bontyberem, wedi ennill ei bedwerydd tlws eleni.
Fe yw pencampwr Cyfres Dartiau’r Byd 2021 ar ôl curo Dimitri Van Den Bergh o 11-6 yn Amsterdam.
Ar ôl ennill Grand Prix y Byd yn gynharach y mis hwn, a’r Uwch Gynghrair a’r Meistri eleni hefyd, roedd e’n fuddugol unwaith eto heddiw (dydd Sul, Hydref 31) gyda chyfartaledd o 101.63 gyda thri dart.
Fe gurodd e Michael van Gerwen ar ei ffordd i’r tlws, gyda chyfartaledd o 101.47 gyda thri dart.
‘Teimlo’n wych’
“Dw i’n teimlo’n wych, mae fy hyder drwy’r to ar y funud,” meddai wedi’r fuddugoliaeth.
“Dw i’n foi hapus iawn.
“Does dim gemau rhwydd, mae pawb yn y gystadleuaeth yma’n wych ond fy mhenwythnos i yw e felly dw i’n mynd i wenu heno.
“Roedd hi’n gêm wych, chwarae teg i Dimitri.
“Allwn i ddim dianc rhagddo fe tan chwarter ola’r gêm.”