Ar benwythnos Calan Gaeaf, pa Gymry a chwaraeodd yn ysbrydoledig a pha rai a gafodd berfformiad dychrynllyd i’w clybiau?

 

*

 

Uwch Gynghrair Lloegr

Collodd Caerlŷr yn erbyn Arsenal yn y gêm gynnar ddydd Sadwrn, gyda Danny Ward yn gwylio o’r fainc. Cafodd y Cymro gêm brin ganol wythnos serch hynny, yn cadw gôl yn erbyn Brighton yn y Cwpan EFL ac yn arbed y gic o’r smotyn dyngedfennol i roi ei dîm yn yr wyth olaf.

Ar y fainc yr oedd y Cymry yn y gêm rhwng Burnley a Brentford hefyd, Wayne Hennessey i’r Clarets a Fin Stevens i’r Gwenyn. Ni oedd Connor Roberts yn y garfan o gwbl i Burnley er iddo wneud ei ymddangosiad cyntaf i’w glwb newydd yn y golled ganol wythnos yn erbyn Spurs yn y Cwpan.

Cefnwr de arall a serennodd yn y Cwpan ganol wythnos a oedd Neco Williams. Y Cymro a oedd seren y gêm wrth iddo greu dwy gôl Lerpwl mewn buddugoliaeth yn erbyn Preston, gêm ble’r oedd ymddangosiad byr i Owen Beck hefyd. Ond nid oedd Neco yn y garfan ar gyfer ymweliad Brighton ag Anfield yn y gynghrair ddydd Sadwrn.

Ar ôl chwarae yn y fuddugoliaeth dros Burnley ganol wythnos, cadwodd Ben Davies ei le yn nhîm Spurs ar gyfer y gêm gynghrair yn erbyn Man U nos Sadwrn. Noson i’w anghofio a oedd hi iddo serch hynny wrth i’w dîm golli o dair gôl i ddim. Eilydd heb ei ddefnyddio a oedd Joe Rodon.

Chwaraeodd Dan James a Tyler Roberts yng ngholled Leeds yn erbyn Arsenal ganol wythnos ond dim ond James a ddechreuodd y gêm gynghrair yn erbyn Norwich ddydd Sul. Y Cymro a greodd y gôl agoriadol i Raphinha cyn i’w dîm fynd ymlaen i ennill o ddwy gôl i un. Roedd ymddangosiad byr oddi ar y fainc i Roberts hefyd.

 

*

 

Y Bencampwriaeth

Gyda’r ddau Gymro, Steve Morison a Tom Rmasut, wrth y llyw, cafodd Caerdydd ganlyniad aruthrol yn Stoke. Roedd yr Adar Gleision dair gôl i ddim ar ei hôl hi cyn sgorio tair gôl mewn chwe munud yn yr ail hanner i gipio pwynt!

A thri Chymro a sgoriodd y goliau, Rubin Colwill yn rhwydo’r gyntaf cyn i’r eilydd Mark Harris ychwanegu’r ail a Kieffer Moore y drydedd. Gyda dau o reolwyr y tîm dan 23 yng ngofal y tîm cyntaf dros dro efallai nad oedd hi’n syndod gweld y Cymry ifanc yn gwneud cystal ac roedd cyfle o’r dechrau i Kieron Evans a lle ar y fainc i Isaak Davies. Dechreuodd Will Vaulks i’r ymwelwyr hefyd. Roedd James Chester a Joe Allen yn nhîm Stoke, gydag Adam Davies ar y fainc.

Cafodd Abertawe ganlyniad da iawn hefyd, yn trechu Peterborough o dair gôl i ddim. Gyda Ben Cabango a Liam Cullen ar y fainc, nid oedd yr un Cymro yn nhîm yr Elyrch ac roedd hi’n brynhawn i’w anghofio i Dave Cornell wrth i’r gôl-geidwad o Waunarlwydd ildio tair wrth ddychwelyd i’w fro enedigol.

Bournemouth sydd ar y brig yn dilyn buddugoliaeth o ddwy gôl i ddim yn Reading nos Sadwrn. Chwaraeodd Chris Mepham ugain munud oddi ar y fainc.

Mae Fulham yn ail ar ôl trechu West Brom o dair i ddim. Chwaraeodd Harry Wilson y gêm gyfan gan greu’r drydedd o dair gôl Aleksander Mitrovic.

Mae Huddersfield i fyny i’r pumed safle ar ôl curo Millwall o gôl i ddim. Roedd Sorba Thomas yn ddylanwadol, yn creu unig gôl y gêm i Jonathan Hogg, yr wythfed gôl iddo ei chreu i’w gyd chwaraewyr y tymor hwn. Dechreuodd Tom Bradshaw i’r gwrthwynebwyr ond ni lwyddodd i ail adrodd ei gampau sgorio o’r penwythnos diwethaf.

Mae Blackpool yn chweched ar ôl ennill oddi cartref yn Sheffield United ond mae Chris Maxwell yn parhau i fod allan o’r garfan oherwydd anaf. Dychwelodd Rhyd Norrington-Davies i garfan y gwrthwynebwyr serch hynny yn dilyn ei anaf yntau.

Ym mhen arall y tabl, colli a fu hanes Derby Tom Lawrence, o ddwy gôl i un yn erbyn Blackburn. Gyda hwy yn y tri isaf y mae Hull ar ôl colli yn erbyn Coventry ac er na gamodd ar y cae, roedd Matthew Smith yn ôl yn eu carfan am y tro cyntaf ers y ffenestr ryngwladol ddiwethaf.

Roedd buddugoliaeth werthfawr i Preston wrth iddynt guro Luton o ddwy gôl i ddim yn Deepdale. Llechen lân i Andrew Hughes yn amddiffyn y tîm cartref felly ond rhediad da diweddar Luton a’r amddiffynnwr Tom Lockyer yn dod i ben.

Roedd un gêm nos Wener, un gyfartal gôl yr un rhwng QPR a Nottingham Forest. Dechreuodd Brennan Johnson i Forest a chreu argraff yn ôl ei arfer.

 

*

 

Cynghreiriau is

Gellir disgrifio gêm rhwng Bolton a Portsmouth fel darbi Gymreig yr Adran Gyntaf y tymor hwn gan fod cymaint o Gymry yn y ddwy garfan. Dechreuodd Lloyd Isgrove, Declan John a Jordan Williams i Bolton ddydd Sadwrn a daeth Josh Sheehan oddi ar y fainc yn gynnar yn yr ail hanner. Pompey a aeth â hi serch hynny o gôl i ddim, gydag ymddangosiadau oddi ar y fainc i Joe Morrell a Louis Thompson. Eilydd heb ei ddefnyddio a oedd Kieron Freeman.

Plymouth sydd ar frig y tabl o hyd yn dilyn buddugoliaeth o ddwy gôl i un dros Ipswich. Gydag Lee Evans yng nghanol y cae, Bois y Tractor a aeth ar y blaen cyn i Luke Jephcott unioni pethau a rhoi ei dîm yntau a James Wilson ar ben ffordd am fuddugoliaeth arall.

Wigan sydd yn ail ond eilydd heb ei ddefnyddio a oedd Gwion Edwards yn eu buddugoliaeth hwy o ddwy gôl i ddim yn erbyn Burton.

Wycombe wedyn sydd yn drydydd wedi gêm gyfartal dair gôl yr un yn Fleetwood. Sam Vokes a sgoriodd drydedd gôl yr ymwelwyr a chwaraeodd Joe Jacobson yn yr amddiffyn.

Ym mhen arall y tabl, cododd Charlton o’r pedwar isaf gyda buddugoliaeth swmpus yn erbyn Doncaster. Parhau y mae job-share Adam Matthews a Chris Gunter yn safle cefnwr de’r Addicks, tro Gunts y penwythnos hwn i chwarae’r 90 munud.

Creodd Regan Poole gôl Luton wrth iddynt gael gêm gyfartal yn erbyn yr Amwythig a chafodd Chris Norton ychydig funudau oddi ar y fainc wrth i Cheltenham gael pwynt yn erbyn Sheffield Wednesday.

Yn yr Ail Adran, dechreuodd Jonny Williams wrth i Swindon ennill o dair gôl i un yn Oldham. Cymro arall sydd yn creu argraff yn yr Ail Adran ar hyn o bryd yw Oli Cooper. Mae Casnewydd ar rediad da ac mae’r chwaraewr ifanc sydd ar fenthyg o Abertawe yn ganolog i hynny, yn creu dwy o’r goliau yn eu buddugoliaeth ddiweddaraf o bum gôl i ddim yn erbyn Stevenage.

 

*

 

Yr Alban a thu hwnt

Roedd hi’n wythnos dda iawn i Ryan Hedges a Marley Watkins gydag Aberdeen yn Uwch Gynghrair yr Alban. Chwaraeodd y ddau Gymro mewn gêm gyfartal yn erbyn Rangers ganol wythnos cyn dechrau’r gêm yn erbyn Hearts ddydd Sadwrn. Buddugoliaeth o ddwy gôl i un a oedd honno, gyda’r ddau’n cyfuno ar gyfer gôl gyntaf eu tîm, Hedges yn creu a Watkins yn sgorio. Ymddangosodd Ben Woodburn oddi ar y fainc i Hearts.

Mae Dylan Levitt yn parhau i chwarae’n rheolaidd yng nghanol cae Dundee United. Roedd yn y tîm ar gyfer y gêm gyfartal ganol wythnos yn erbyn Livingston ac eto ar gyfer y golled gartref o gôl i ddim yn erbyn St Johnstone ddydd Sadwrn.

Mae Dunfermline yn aros ar waelod Pencampwriaeth yr Alban heb fuddugoliaeth ers dechrau’r tymor. Ildiodd Owain Fôn Williams bedair yn y golled ddiweddaraf o bedair i ddwy yn erbyn Abroath.

Yn yr almaen, mae St. Pauli yn parhau i fod yn gyfforddus ar frig y 2. Bundesliga er gwaethaf gêm gyfartal gôl yr un yn Werder Bremen ddydd Sadwrn. Yn dilyn cyfnod hir ar y fainc, dechreuodd James Lawrence am y tro cyntaf ers sawl gêm.

Mae synau cadarnhaol yn dod o Fadrid am ffitrwydd Gareth Bale ond nid oedd yn y garfan ar gyfer buddugoliaeth ei dîm yn Elche ddydd Sadwrn. Ac nid oedd Aaron Ramsey yng ngharfan Juventus ychwaith wrth iddynt hwy golli yn Verona yn Serie A.

Yn aros yn yr Eidal, nid oedd Ethan Ampadu yng ngharfan Venezia ar gyfer y daith i Genoa brynhawn Sul a hynny oherwydd gwaharddiad am un o’r cardiau coch rhyfedda y gwelwch chi’r tymor hwn. Cafodd y Cymro ei anfon oddi ar y cae am dacl berffaith yn erbyn Sassuolo ganol wythnos, penderfyniad a achosodd gryn benbleth i gefnogwyr Cymru ar y cyfryngau cymdeithasol.

Roedd hi’n wythnos well i Rabbi Matondo yng Ngwlad Belg, sgoriodd ef ei gôl gyntaf dros Cercle Brugge ganol wythnos, yn rhwydo’r ail mewn buddugoliaeth o dair gôl i ddim yn erbyn Tienen. Chwaraeodd yn erbyn Antwerp ddydd Sul hefyd ond colli fu ei hanes yn y gêm honno, o gôl i ddim.