Mae Clwb Pêl-droed Wrecsam yn dweud nad oes croeso i unrhyw un sy’n camymddwyn ar y Cae Ras.

Daw’r datganiad yn dilyn sawl digwyddiad yn y gêm gartref yn erbyn Torquay ddoe (dydd Sadwrn, Hydref 30).

Hon oedd y gêm gartref gyntaf gerbron y perchnogion Ryan Reynolds a Rob McElhenney.

Dywed y clwb fod yna “adroddiadau o ddigwyddiadau annerbyniol ac ymddygiad” tuag at y gwrthwynebwyr yn ystod y gêm gan “fwyafrif bach iawn” o gefnogwyr.

Dywed y clwb eu bod nhw’n cydweithio â Heddlu’r Gogledd ac yn adolygu deunydd fideo “i adnabod y sawl sy’n gyfrifol”.

Maen nhw hefyd yn dweud y bydd unigolion sy’n cael eu hadnabod yn wynebu’r “gosb fwyf llym sydd ar gael i’r clwb”.

“Does dim croeso i chi yn ein clwb,” meddai’r clwb wrthyn nhw’n uniongyrchol mewn datganiad.

“Mae diogelwch pawb sy’n mynychu gemau yn y Cae Ras o’r pwys mwyaf,” meddai wedyn.

“Hoffem ddiolch i’r 242 o gefnogwyr Torquay a ddaeth ar y daith hir yma ac yn ôl o Ddyfnaint i ogledd Cymru, a’n cefnogwyr go iawn oedd wedi ein cefnogi ni mewn niferoedd mawr unwaith eto.”

Perchnogion Wrecsam “wedi dangos eu hangerdd”

Ryan Reynolds a Rob McElhenney wedi bod yn y Cae Ras i wylio’r gêm gyfartal 1-1 yn erbyn Torquay