Mae Phil Parkinson, rheolwr tîm pêl-droed Wrecsam, yn dweud bod y perchnogion Ryan Reynolds a Rob McElhenney “wedi dangos eu hangerdd” yn y Cae Ras wrth deithio i wylio’r gêm gyfartal 1-1 yn erbyn Torquay.
Mae’r sêr Hollywood wedi bod yng Nghymru yr wythnos hon, ac fe ddaeth eu taith i ben gyda’u gêm gartref gyntaf.
Sgoriodd Wrecsam ar ôl pedair munud, wrth i Harry Lennon rwydo oddi ar dafliad hir Ben Tozer gerbron torf fawr.
Bu bron iddyn nhw fynd adre’n hapus, ond fe wnaeth Connor Lemonheigh-Evans unioni’r sgôr yn hwyr yn y gêm wrth i Wrecsam ostwng i’r trydydd safle ar ddeg yn nhabl y Gynghrair Genedlaethol.
Yn ystod eu hymweliad, maen nhw wedi bod yng ngwesty’r Turf lle cafodd y clwb ei ffurfio yn 1864 ac fe wnaethon nhw gynnal cynhadledd i’r wasg yn y stadiwm.
Wrth i’r dorf ymgasglu, cawson nhw groeso cynnes gan McElhenney, wrth iddo eu cyfarch gyda’r neges “Croeso i Wrecsam, Croeso i’r Cae Ras” yn Gymraeg.
Ymateb i’r canlyniad
“Fe gawson ni ddechrau gwych a phan gawson ni gyfnodau o bwysau mewn llefydd da, mae’n fater o fod yn fygythiol i gael yr ail a’r drydedd [gôl] i ladd y gêm,” meddai’r rheolwr Phil Parkinson wrth y BBC.
“Mae pawb yn gwybod eich bod chi’n fregus yn 1-0.
“Oeddwn i’n teimlo eu bod nhw’n mynd i sgorio? Ddim wir, doedden nhw ddim wedi cael unrhyw ymgais ac eithrio gwrthymosodiadau.
“Ar y cyfan, ro’n i’n teimlo’n gyfforddus ond roedd angen i ni gael yr ail gôl honno.
“Mae’n destun siom cael gêm gyfartal lle’r oeddwn i’n teimlo mai ni oedd y tîm gorau.
“Roedd yr awyrgylch yn arbennig ac yn amlwg, rydyn ni’n rhwystredig iawn nad ydyn ni wedi anfon y cefnogwyr adre’ â thriphwynt a’r perchnogion yn ôl ar yr awyren â thriphwynt.
“Fe fu’n wych cael Ryan a Rob gyda ni yr wythnos hon.
“Maen nhw wedi bod yn wych o amgylch y lle, ac maen nhw wedi dangos y fath angerdd sydd ganddyn nhw ar gyfer y clwb.”