Mae Wayne Pivac, prif hyfforddwr tîm rygbi Cymru, yn dweud bod y capten Alun Wyn Jones “yn teimlo’n well o lawer” erbyn hyn ar ôl anafu ei ysgwydd yn y golled o 54-16 yn erbyn Seland Newydd.

Roedd pryderon ar ôl i’r chwaraewr ail reng dylanwadol orfod gadael y cae ar ôl anafu’r un ysgwydd ag y gwnaeth e ei anafu cyn taith y Llewod i Dde Affrica yn yr haf.

18 munud yn unig barodd e cyn iddo orfod gadael y cae, ac roedd pryderon ar unwaith na fyddai ar gael am weddill gemau’r hydref yn erbyn De Affrica, Ffiji ac Awstralia.

Ond dywedodd Pivac ei fod e’n “teimlo’n eithaf da” ac y byddai’n cael sgan fel rhagofal, ond nad oedd e “yn teimlo’n anghyfforddus” ac mae’n gwadu ei fod e wedi gwaethygu’r anaf gafodd e yn yr haf.

Ond mae yna bryderon am y blaenasgellwr Ross Moriarty, ar ôl iddo yntau hefyd adael y cae cyn yr egwyl ag anaf i’w ysgwydd.

“Roedd e mewn tipyn o boen, felly dydy hynny ddim yn edrych yn dda iawn,” meddai Pivac.

Y gêm

Fe wnaeth y Crysau Duon efelychu eu buddugoliaeth fwyaf yn erbyn Cymru yng Nghaerdydd, ond cael a chael oedd hi tan hanner ffordd drwy’r ail hanner.

Sgoriodd yr ymwelwyr bedwar cais wedyn ar ôl i Gymru lwyddo i gau’r bwlch i ddim ond 12 pwynt.

Dydy Cymru ddim wedi curo’r Crysau Duon ers 1953.

Roedd dau gais i Beauden Barrett yn ei ganfed gêm dros ei wlad, ac fe groesodd TJ Perenara, Will Jordan, Dalton Papalii, Sevu Reece ac Anton Lienert-Brown, gyda 19 pwynt yn dod oddi ar droed Jordi Barrett.

Dyma’r tro cyntaf i Gymru chwarae gerbron torf o 70,000 yn Stadiwm Principality ers dechrau pandemig Covid-19, a sgoriodd Johnny Williams gais, gyda Gareth Anscombe yn cicio dwy gic gosb a Rhys Priestland gic gosb a throsiad.

Bydd Cymru’n cael hwb wrth i nifer o’u chwaraewyr ddychwelyd ar gyfer y gêm nesaf yn erbyn De Affrica, ond fe fydd pryderon o’r newydd y gallen nhw fod heb ddau o’r blaenwyr amlycaf serch hynny.