Mae digrifwr sydd wedi dod yn dipyn o seren ar y cyfryngau cymdeithasol yn sgil ei ymdrechion i gamu ar gaeau chwaraeon y Deyrnas Unedig, wedi cyhoeddi fideo yn dangos ei daith o’r eisteddle i gae Stadiwm Principality neithiwr (nos Sadwrn, Hydref 30).

Mae ‘Jarvo’, neu Daniel Jarvis, eisoes wedi cael ei hun mewn dŵr poeth am gamu i gae criced yr Oval yn Llundain a gwthio Jonny Bairstow, batiwr Lloegr, wrth geisio bowlio at Moeen Ali yn ystod gêm brawf yn erbyn India eleni.

Fe fydd e’n wynebu achos llys fis Mawrth nesaf yn sgil y digwyddiad hwnnw.

Ddechrau’r mis hwn, fe lwyddodd i gamu ar y cae yn Stadiwm Tottenham Hotspur yn ystod gêm bêl-droed Americanaidd rhwng y Jacksonville Jaguars a’r Miami Dolphins yn Llundain.

Ond Caerdydd yw lleoliad ei weithred ddiweddaraf, ac mae e wedi cyhoeddi fideo yn dangos ei daith o’r eisteddle i sefyll ochr yn ochr â chwaraewyr Seland Newydd ar gyfer yr anthemau.

Mae’r fideo’n ei ddangos yn gadael ei sedd, yn cerdded i lawr y grisiau tuag at yr ystlys, neidio dros hysbysfwrdd a rhedeg o gornel y stadiwm i’r llinell hanner, cyn sefyll drws nesaf i’r chwaraewyr yn gwisgo mwgwd.

Wrth sylweddoli’r hyn oedd wedi digwydd, cafodd ei dywys oddi yno gan swyddog cyn i nifer yn rhagor o swyddogoion eraill gyrraedd.

Er bod y digwyddiadau i’w gweld yn ddigon doniol ar y cyfan, fe fydd cwestiynau’n codi unwaith eto ynghylch sut y bu i ffigwr mor adnabyddus lwyddo i gael mynediad i’r cae chwarae unwaith eto.

Mae golwg360 wedi gofyn i’r stadiwm am ymateb.