Mae disgwyl i Dan Biggar a Louis Rees-Zammit ddychwelyd i garfan rygbi Cymru ar gyfer y gêm yn erbyn De Affrica ddydd Sadwrn (Tachwedd 6).

Daw hyn ar ôl iddyn nhw fethu’r gêm yn erbyn Seland Newydd ddoe (dydd Sadwrn, Hydref 30), wrth i’r Crysau Duon chwalu Cymru o 54-16 – y nifer fwyaf o bwyntiau i Gymru eu hildio ers 2007, pan sgoriodd Lloegr 62 mewn gêm baratoadol ar gyfer Cwpan y Byd.

Roedd saith o chwaraewyr allan o’r gêm ddoe, gan gynnwys Biggar a Rees-Zammit, gan fod y gêm yn cael ei chynnal y tu allan i’r ffenest ryngwladol pan fo rhaid i glybiau ryddhau eu chwaraewyr ar gyfer gemau.

Bydd y canolwr Nick Tompkins a’r blaenasgellwr Thomas Young hefyd yn ymuno â’r garfan ar ôl bod allan am yr un rheswm, gyda gemau’n cael eu cynnal yn Lloegr y penwythnos hwn.

Mae pryderon, serch hynny, am ffitrwydd Ross Moriarty ar ôl iddo adael y cae ag anaf i’w ysgwydd, ond mae Cymru’n gobeithio y bydd y capten Alun Wyn Jones yn holliach er iddo yntau gael anaf i’w ysgwydd hefyd.

Pe bai Alun Wyn Jones yn holliach, fe fyddai’n ennill cap rhif 150 dros Gymru.

Mae Wayne Pivac hefyd yn cadw llygad ar sefyllfaoedd Liam Williams, Ken Owens, Ellis Jenkins a Taulupe Faletau.