Cafodd Casnewydd fuddugoliaeth rwydd 5-0 yn erbyn Stevenage y pnawn yma yng nghanol y glaw ar Rodney Parade.
Roedd goliau’r tîm cartref yn cynnwys hatric gan yr ergydiwr Dom Telford, sydd bellach wedi sgorio 10 gôl mewn 10 gêm, a helpu cynnal record 100 y cant James Rowberry ers cychwyn fel rheolwr.
Daeth ei gôl gyntaf yn y 12fed munud wrth iddo fod yn y lle iawn i ergydio’r bêl i’r rhwyd, a daeth ei ail ar ôl 28 munud. Ymhen chwe munud wedyn, roedd wedi helpu ei gyd-ergydiwr Courtney Baker-Richardson i sgorio trydedd gôl y gêm.
Wrth i Gasnewydd barhau i ymosod ar ôl yr egwyl, sicrhaodd Dom Telford ei hatric dri munud i mewn i’r ail hanner, ac ychwanegwyd pumed gôl at y sgôr derfynol gan Finn Azaz ddau funud wedyn.